Click here to skip to the main content
Hafan

Cymraeg / English

Hafan  Cysylltiadau allanol  Map o'r Safle  Dewisiadau Mynediad 
Pwy ydym ni? Beth rydym yn ei wneud Cyhoeddiadau Newyddion Y Gyfnewidfa Arfer Da
Hafan > Beth rydym yn ei wneud > Ymchwiliad o Wasanaeth Ambiwlans Cymru > Tîm yr Ymchwiliad
Argraffu'r Dudalen
Tîm yr Ymchwiliad
Jeremy ColmanTreuliodd Jeremy Colman ei yrfa gynnar yn y gwasanaeth sifil: yn yr Adran Gwasanaeth Sifil lle daeth yn ysgrifennydd preifat i Bennaeth y Gwasanaeth Sifil Cartref; ac yn y Trysorlys lle chwaraeodd ran flaenllaw ym mhreifateiddio British Airways ac Awdurdod Meysydd Awyr Prydain. Ym 1988 symudodd i’r sector breifat, yn gyntaf fel Cyfarwyddwr un o’r prif fanciau buddsoddi (County NatWest), ac yn ddiweddarach fel partner yn Price Waterhouse, gan weithio ym Mhrâg fel Pennaeth Cyllid Corfforaethol.

Yng Ngorffennaf 1993, trodd Jeremy yn ôl at y sector cyhoeddus, gan ymuno â’r Swyddfa Archwilio Genedlaethol (NAO) fel cyfarwyddwr yr uned breifateiddio, a daeth yn Archwiliwr Cyffredinol Cynorthwyol yn Ionawr 1999.

Argymhellodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru Jeremy Colman yn unfrydol i’w benodi fel yr Archwiliwr Cyffredinol cyntaf Cymru yn Nhachwedd 2004 ac fe’i penodwyd yn ffurfiol i’r swydd gan EM y Frenhines, swydd oedd i ddechrau ar 1 Ebrill, i gyd-daro â chreu Swyddfa Archwilio Cymru (WAO).  Fel pennaeth Swyddfa Archwilio Cymru, mae’n goruchwylio archwiliad blynyddol o ryw £19 biliwn o arian y trethdalwyr.

Mae Gill Lewis yn Bartner â chyfrifoldeb am archwilio a phrosiectau Gwerth am Arian yn Swyddfa Archwilio Cymru. Y mae hefyd yn gyfrifol am ‘Ymddygiad a Gwrth Dwyll yng Nghymru’.

Mae ei chefndir mewn cyllid iechyd a bu’n gweithio mewn amryw o swyddi cyfrifyddiaeth ariannol a rheoli yn Awdurdodau Iechyd De Glamorgan a Morgannwg Ganol. Ymunodd â’r Comisiwn Archwilio yn 1988 lle bu’n gweithio mewn nifer o swyddi yn cynnwys archwilio ymddiriedolaethau ambiwlans. Mae ganddi ddiddordeb brwd mewn ymgeisio i wella rheoli cyllid, moeseg, trefn lywodraethol a llygredd yn y sector gyhoeddus.

Mae Gill yn economegydd ac mae ganddi radd o Brifysgol Caerdydd. Mae’n aelod o Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth (CIPFA) a’n Gadeirydd blaenorol o CIPFA yng Nghymru. Mae’n ymroddedig i ddosbarthu gwaith o safon uchel sydd yn ychwanegu gwerth at agenda’r sector cyhoeddus yng Nghymru.


Rob PowellMae Rob Powell yn rheolwr prosiect archwilio perfformiad yn Swyddfa Archwilio Cymru. Mae ei brofiad sylfaenol wedi bod mewn cynhyrchu adroddiadau perfformiad cenedlaethol ac y mae wedi gweithio’n helaeth yn y maes iechyd (ymysg eraill). Mae ei adroddiadau diweddaraf yn y maes iechyd yn cynnwys Trais yn y GIG, Contract am Wasanaeth Allan o Oriau Meddygon Teulu Caerdydd, Amseroedd Aros y GIG a Gwella Llawdriniaeth Dydd yn GIG Cymru. Bu Rob yn gweithio i Gomisiwn Gwasanaethau Cyfreithiol Cyngor Sir Caerdydd ac mae ganddo MBA a gradd anrhydeddus dosbarth cyntaf mewn Hanes.



Mae Jackie Joyce yn arbenigwraig perfformiad yn nhîm Rheolaeth Corfforaethol a Strategaeth Swyddfa Archwilio Cymru. Y mae wedi gweithio ar nifer o adolygiadau yn cynnwys diwylliant corfforaethol, rheoli perfformiad, rheoli presenoldeb, rheoli adnoddau ac effeithiolrwydd ynni. Bu Jackie yn gweithio i Gyngor Bwrdeistrefol Redbridge, Llundain ac mae ganddi radd anrhydeddus BSc mewn Daearyddiaeth. Y mae hefyd yn gymrawd o Gymdeithas y Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig.

Mae Lucy Evans yn uwch archwilydd yn gweithio’n flaenorol ar archwilio ariannol yn Swyddfa Archwilio Cymru. Ymunodd Lucy â’r Swyddfa Archwilio Dosbarth wedi cwblhau gradd mewn seicoleg ym 1997.  Enillodd gymhwyster fel cyfrifydd CIPFA yn 2002 ac ers hynny, y mae wedi bod yn arwain timoedd archwilio ariannol llywodraeth leol a’r GIG yng Nghymru. Ar hyn o bryd, mae Lucy yn arwain archwiliad ariannol ar un o ymddiriedolaethau’r GIG yng Nghymru a dau Barc Cenedlaethol. 

Mae Martin Gibson yn arbenigwr perfformiad sydd a profiad yn benodol mewn llywodraeth leol - bu’n gweithio am gyfanswm o bymtheg mlynedd i Gyngor Sir Caerdydd a Chyngor Sir Bro Morgannwg. Bu hefyd yn gweithio i’r Comisiwn Archwilio am bedair blynedd cyn trosglwyddo i Swyddfa Archwilio Cymru ym mis Ebrill 2006. Mae Martin yn arbenigo’n bennaf mewn rheoli data. Y mae wedi gweithio ar brosiectau ar y cyd gyda’r Uned Ddata Llywodraeth Leol Cymru ac Estyn, ac mae ganddo radd BSc dosbarth cyntaf mewn Systemau Busnes a Gwybodaeth.

Dychwelyd i'r brif dudalen

Swyddfa Archwilio Cymru
24 Heol y Gadeirlan
Caerdydd
CF11 9LJ

Ffôn: 029 2032 0500
Ffacs: 029 2032 0600

© Swyddfa Archwilio Cymru