Click here to skip to the main content
Hafan

Cymraeg / English

Hafan  Cysylltiadau allanol  Map o'r Safle  Dewisiadau Mynediad 
Pwy ydym ni? Beth rydym yn ei wneud Cyhoeddiadau Newyddion Y Gyfnewidfa Arfer Da
Hafan > Beth rydym yn ei wneud > Menter Twyll Genedlaethol > Cysylltiadau a chyfrifoldebau
Argraffu'r Dudalen
Cysylltiadau a chyfrifoldebau
Rôl Cyfarwyddwr Cyllid

Mae gan y Cyfarwyddwr Cyllid, neu uwch swyddog cyfatebol a enwir sy'n gweithredu fel 'swyddog cyfrifol' y Fenter Twyll Genedlaethol, gyfrifoldebau allweddol o dan y Cod Ymarfer ar Baru Data i sicrhau y bodlonir y gofynion i gyrff sy'n cymryd rhan yn y Fenter Twyll Genedlaethol, fel a ganlyn:

  • enwebu prif gyswllt drwy fewngofnodi i gronfa ddata Cysylltiadau'r Fenter Twyll Genedlaethol (https://www.nfilog.co.uk/nfiloguploads 2008);
  • galluogi'r prif gyswllt i weld y data a barir (drwy feddalwedd ddiogel y Fenter Twyll Genedlaethol) pan fydd ar gael (28 Ionawr 2009);
  • sicrhau bod y prif gyswllt yn bodloni holl ofynion diogelu data.

Rôl y prif gyswllt

Bydd y prif gyswllt yn gyfrifol am:

  • enwebu cysylltiadau priodol i lwytho data i lawr. Dylai fod yn unigolyn sy'n gwybod am y mwyaf am y system dan sylw;
  • enwebu enwau cyswllt priodol ar gyfer setiau data, er enghraifft efallai mai unigolyn a enwebir ym maes Archwilio Mewnol neu Gyfrifon sy'n Daladwy fydd orau i edrych ar daliadau dyblyg credydwyr masnach;
  • sicrhau y cedwir at y canllawiau ar fformatau data a manylebau data-dylai gysylltu'n uniongyrchol â swyddog diogelu data ei sefydliad neu unigolyn â chyfrifoldeb cyfatebol;
  • bodloni gofynion diogelu data;
  • cydlynu a monitro'r ymarfer cyffredinol;
  • rhoi adborth ar ganlyniadau'r ymarfer

Bydd y modiwl hyfforddi rhyngweithiol ar-lein 'prif gyswllt', a fydd ar gael i gyrff sy'n cymryd rhan yn y Fenter Twyll Genedlaethol o 1 Medi 2008, yn rhoi rhagor o wybodaeth am rôl y prif gyswllt.

Rôl cyswllt llwytho data i lawr

Mae cyswllt llwytho data i lawr yn gyfrifol am gyflwyno'r data:

  • yn unol â'r manylebau;
  • yn y fformat presennol;
  • drwy'r dull cyflwyno a nodir (DFU);
  • erbyn yr amser angenrheidiol.

Rôl cyswllt setiau data

Mae cyswllt setiau data yn gyfrifol am ymchwilio i'r data a barir a roddir iddo gan y prif gyswllt. Efallai y bydd y cyswllt setiau data hefyd yn gyfrifol am ateb ymholiadau cyrff eraill sydd wedi'u paru os bydd y prif gyswllt yn dirprwyo’r rôl hon iddo.

Gall un unigolyn gyflawni rolau'r prif gyswllt, y cyswllt llwytho data i law a'r cywllt setiau data, yn enwedig mewn sefydliadau bach.

Sut y caiff gwybodaeth gyswllt ei defnyddio

Defnyddir gwybodaeth prif gysylltiadau i lenwi cyfleuster chwilio 'cod yr awdurdod' o fewn meddalwedd y Fenter Twyll Genedlaethol. Mae'r cyfleuster chwilio hwn yn rhoi manylion cyswllt i bob corff sydd wedi'i baru fel y gall gysylltu ag eraill mewn perthynas â data a barir, lle y bo'n berthnasol. O ganlyniad, anogir y broses o enwebu cysylltiadau setiau data pan fydd rhywun ar wahân i'r prif gyswllt yn gyfrifol am ymchwilio i ddata penodol a barwyd ac ymdrin ag ymholiadau gan gyrff eraill sy'n cymryd rhan.

Noder nad yw'r manylion cyswllt a ddarperir gan ddefnyddio'r broses a nodir uchod yn cael eu defnyddio i greu defnyddwyr ar gymhwysiad meddalwedd y Fenter Twyll Genedlaethol. Mae mynediad i gymhwysiad meddalwedd y Fenter Twyll Genedlaethol yn dasg ar wahân a weinyddir yn lleol gan y Cyfarwyddwr Cyllid a'r prif gyswllt.

Swyddfa Archwilio Cymru
24 Heol y Gadeirlan
Caerdydd
CF11 9LJ

Ffôn: 029 2032 0500
Ffacs: 029 2032 0600

© Swyddfa Archwilio Cymru