Click here to skip to the main content
Hafan

Cymraeg / English

Hafan  Cysylltiadau allanol  Map o'r Safle  Dewisiadau Mynediad 
Pwy ydym ni? Beth rydym yn ei wneud Cyhoeddiadau Newyddion Y Gyfnewidfa Arfer Da
Hafan > Beth rydym yn ei wneud > Menter Twyll Genedlaethol > Hysbysiadau Prosesu Teg – testun llawn
Argraffu'r Dudalen
Hysbysiadau Prosesu Teg – testun llawn
Fersiwn ddrafft yw’r hysbysiad prosesu teg hwn yn ystod y broses o gwblhau’r cyfnod ymgynghori ar God Ymarfer Paru Data yr Archwilydd Cyffredinol dros Gymru.

Ymarferion Paru Data

Mae’r Archwilydd Cyffredinol dros Gymru (Yr Archwilydd Cyffredinol) yn cynnal ymarferion paru data er mwyn osgoi ac adnabod twyll.
Mae Paru Data yn cynnwys cymharu cofnodion cyfrifiadurol a gedwir gan un corff gyda chofnodion corff arall.  Fel arfer, mae hyn yn wybodaeth bersonol.  Mae cymharu data cyfrifiadurol yn ei gwneud hi’n haws i amlygu hawliadau a thaliadau twyllodrus.  Os bydd paru data yn amlygu unrhyw anghysondebau, bydd angen mwy o waith archwilio.  Nid oes modd cadarnhau natur y twyll tan i’r gwaith archwilio gael ei wneud. 

Gan ystyried bod y data a ddefnyddir gan yr Archwilydd Cyffredinol mewn ymarfer paru data yn cael ei weithredu gydag awdurdod statudol ((Rhan 3A o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004)), nid yw’n ofynnol i gael caniatâd yr unigolion dan sylw o dan y Ddeddf Diogelu Data 1998.

Mae pob corff sy’n cymryd rhan yn ymarferion paru data’r Archwilydd Cyffredinol yn derbyn adroddiad sy’n adnabod data sy’n paru o fewn cofnodion y corff hwnnw a chofnodion cyrff eraill.  Cyfrifoldeb y corff yw archwilio’r pariadau er mwyn iddynt amlygu achosion o dwyll, gordaliadau neu daliadau ddiffygiol a chamgymeriadau eraill a diweddaru ei gofnodion fel sy’n briodol.  Hyd yma, mae’r MTC wedi amlygu twyll a gordaliadau o tua £7miliwn yng Nghymru.

Sail Cyfreithiol

O 2008, bydd yr Archwilydd Cyffredinol yn cynnal ymarferion paru data fel rhan o ddeddfau statudol Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004, fel a ddiwygiwyd gan Ddeddf Trosedd Difrifol 2007. Cynhaliwyd ymarferion blaenorol o dan ei archwiliad gwerth am arian a swyddogaethau astudiaeth yn Neddf 2004 a Deddf Llywodraeth Cymru 1998, ac o dan awdurdod yr archwiliwr a apwyntiwyd.

O dan y rheolau newydd:

  1. Gall yr Archwilydd Cyffredinol gynnal ymarferion paru data at ddibenion cynorthwyo osgoi ac adnabod twyll;
  2. Gall fod ar yr Archwilydd Cyffredinol angen i’r llywodraeth leol a chyrff GIG i ddarparu data ar gyfer ymarferion paru data. 
  3. Gall cyrff a phobl eraill gymryd rhan yn yr ymarferion paru data o’u gwirfodd gyda sêl bendith yr Archwilydd Cyffredinol.  Gyda chaniatâd yr Archwilydd Cyffredinol, mae’r ddeddf yn datgan nad oes yna draul ar gyfrinachedd neu  fel a nodir yn d) isod, unrhyw rwystr arall rhag ddarparu’r data; 
  4. Mae gofynion y Ddeddf Diogelu Data 1998 yn dal i fod yn gymwys;
  5. Mae gan yr Archwilydd Cyffredinol yr hawl i ddatgelu canlyniadau’r ymarferion paru data i’r cyrff a ddarparodd y data;
  6. Gall yr Archwilydd Cyffredinol gyhoeddi adroddiad cryno;
  7. Gall yr Archwilydd Cyffredinol ddatgelu’r data a ddarparwyd ar gyfer y pariadau a chanlyniadau’r data sy’n paru â’r Comisiwn Archwilio, Rheolwr TG a’r Archwilydd Cyffredinol dros Ogledd Iwerddon, Archwilydd Cyffredinol dros yr Alban, Comisiwn Cyfrifon yr Alban, ac Archwilio’r Alban, at ddibenion osgoi ac adnabod twyll;
  8. Mae datguddio anghyfiawn o ddata a ddefnyddiwyd at ddibenion paru data gan unrhyw berson yn weithred troseddol;
  9. Gall yr Archwilydd Cyffredinol godi ffi ar unrhyw gorff sy’n cymryd rhan yn yr ymarferion paru data;
  10. Mae’n rhaid i’r Archwilydd Cyffredinol baratoi a chyhoeddi Cod Ymarfer.  Mae’n rhaid i bob corff sy’n cynna neu sy’n cymryd rhan yn yr ymarferion hyn ufuddhau i’r Cod Ymarfer, gan gynnwys yr Archwilydd Cyffredinol ei hun.

Y cyrff y mae angen iddynt ddarparu data neu gynnig data o’u gwirfodd at ddibenion paru:

Ar hyn o bryd, mae’r Archwilydd Cyffredinol yn gofyn i awdurdodau Llywodraeth Leol, awdurdodau heddlu, gwasanaethau tân ac achub, byrddau profiannaeth, byrrdau iechyd lleol (BILl) ac Ymddiriedolaethau GIG i ddarparu data. 

Yn ogystal, mae’r cyrff canlynol yn darparu data i’r Archwilydd Cyffredinol i’w paru ar sail gwirfoddol: Llywodraeth Cynulliad Cymru a Chyrff Noddedig Llywodraeth y Cynulliad.
[Rhestr o gyrff sy’n cymryd rhan o’u gwirfodd i’w diweddaru o bryd i’w gilydd]

Y data a berir a’r rhesymau dros eu paru

Am wybodaeth sy’n disgrifio’r pariadau unigol rhwng setiau o ddata a gymharwyd gan yr Archwilydd Cyffredinol, trowch at {cyswllt i Lawlyfr MTC} a {cyswllt i Ganllawiau MTC} sydd ar gael ar y wefan hon. Disgrifir diben pob pariad yn y canllawiau MTC.

Cod Ymarfer Paru Data

Mae paru data gan yr Archwilydd Cyffredinol yn atebol i God Ymarfer

Gwybodaeth bellach

Gallwch ddod o hyd i fwy o fanylion ar ymarferion paru dara yr Archwilydd Cyffredinol, gan gynnwys adroddiadau cenedlaethol ynghyd â chyhoeddiadau eraill a chanllawiau ar ein gwefan www.wao.gov.uk.  Mae gwybodaeth bellach am ymarferion MTC ar http://www.wao.gov.uk/whatwedo/1252.asp.
Fel arall, cysylltwch â Chydgysylltydd MTC Swyddfa Archwilio Cymru, Kate Febry, Swyddfa Archwilio Cymru, 24 Heol y Gadeirlan, Caerdydd CF11 9LJ (Katrina.febry@wao.gov.uk)

Swyddfa Archwilio Cymru
24 Heol y Gadeirlan
Caerdydd
CF11 9LJ

Ffôn: 029 2032 0500
Ffacs: 029 2032 0600

© Swyddfa Archwilio Cymru