Click here to skip to the main content
Hafan

Cymraeg / English

Hafan  Cysylltiadau allanol  Map o'r Safle  Dewisiadau Mynediad 
Pwy ydym ni? Beth rydym yn ei wneud Cyhoeddiadau Newyddion Y Gyfnewidfa Arfer Da
Hafan > Beth rydym yn ei wneud > Menter Twyll Genedlaethol > Gofynion data
Argraffu'r Dudalen
Gofynion data
Nodir gofynion data ymarfer Menter Twyll Genedlaethol 2008/2009 yn Nhabl 1 - Gofynion Data 2008/2009, gyda'r manylebau data cyfatebol wedi'u nodi ar wefan y Comisiwn Archwilio. Mae nifer o bwyntiau i'w nodi mewn perthynas â'r ymarfer hwn:
  1. Ar hyn o bryd mae'r Archwilydd Cyffredinol yn ymgynghori ar gynnig i ailddosbarthu nifer o setiau data, a oedd yn opsiynol yn flaenorol fel rhai craidd (gorfodol).
  2. Dylid cadw at ofynion Cod Ymarfer ar Baru Data 2008 mewn perthynas â hysbysiadau prosesau teg unwaith y cytunir ar fersiwn terfynol y Cod. Dylech ymgysylltu â'ch swyddog diogelu data eich hun neu unigolyn â chyfrifoldeb cyfatebol, os bydd angen unrhyw esboniad arnoch.
  3. Dylech gyfeirio at adran Cyflwyno Data y llawlyfr hwn sy'n rhoi manylion am sut i lwytho data yn ddiogel. Dyma'r unig ddull derbyniol.
  4. Fel yn achos ymarferion blaenorol, caiff data ei gasglu yn ei grynswth ar ran cyrff sy'n cymryd rhan lle y bo modd. Er enghraifft, caiff data yn ymwneud â budddal tai ei gasglu gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) a chaiff data yn ymwneud â myfyrwyr sy'n gymwys i gael benthyciad ei gasglu gan y Cwmni Benthychiadau Myfyrwyr (SLC).
  5. Gofynnir hefyd i ddarparwyr gwasanaethau yswiriant i awdurdodau lleol roi data yswiriant ar ran awdurdodau lleol a chaiff y wybodaeth ddiweddaraf am hyn ei rhoi ymhell cyn y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno data.
  6. Mewn achosion lle y bydd darparwr cyflogres y GIG yn cyflwyno data yn uniongyrchol ar ran corff GIG, mae corff y GIG yn gyfrifol am sicrhau y caiff darparwr y gyflogres gyfarwyddiadau llawn ac amserol am y gofyniad hwn ac yr hysbysir cyflogeion yn unol â'r gofynion prosesu teg.
  7. Mae profiad o ymarferion blaenorol yn y Fenter Twyll Genedlaethol wedi dangos bod data sefydlog a data hanes taliadau credydwyr masnach yn fanyleb cymhleth, felly dylid bod yn ofalus iawn wrth echdynnu'r data, fel arall gellir cael effaith ddifrifol iawn ar ansawdd yr allbwn. Os mai dyma'r tro cyntaf iddi fod yn ofynnol i chi gyflwyno'r data hwn bydd gennych gyfle I anfon ffeiliau sampl ar gyfer y setiau data sefydlog a setiau data hanes taliadau yn ystod mis Gorffennaf 2008. Yn ogystal  fe'ch gwahoddir i ddefnyddio'r   gwasanaeth hwn os gwnaeth materion yn ymwneud â bodloni'r manyleb data effeithio ar y data a barwyd ar gyfer 2006/2007. Bydd manylion am sut i fanteisio ar y cyfle hwn ar gael ar hafan cymhwysiad y Fenter Twyll Genedlaethol ar y we.

Tabl 1 - Gofynion data

Cyrff llywodraeth leol sy'n cymryd rhan

Corff

Craidd¹ (lle maent yn gyfrifol am swyddogaeth)

Awdurdodau Unedol

  • Cyflogres
  • Cyflogres pensiynau
  • Hanes taliadau a data sefydlog credydwyr masnach
  • Tai
  • Budd-daliadau tai²
  • Y dreth gyngor (ddim yn ofynnol tan 2009)
  • Cofrestr etholiadol (ddim yn ofynnol tan 2009)
  • Myfyrwyr sy'n gymwys i gael benthyciad³
  • Preswylwyr gofal cartref â chymorth preifat
  • Pasys a thocynnau trafnidiaeth (gan gynnwys parcio i breswylwyr, bathodynnau glas a theithio rhatach)
  • Hawlwyr yswiriant
  • Trwyddedau - Masnachwr/gweithredwr marchnad, Gyrrwr tacsi a thrwyddedau personol (newydd) i werthu alcohol.

Byrddau/Ymddiriedolaethau Prawf

  • Cyflogres
  • Cyflogres pensiynau
  • Hanes taliadau a data sefydlog credydwyr masnach

Awdurdodau'r Heddlu ac

Awdurdodau Tân ac Achub

  • Cyflogres
  • Cyflogres pensiynau
  • Hanes taliadau a data sefydlog credydwyr masnach

Awdurdodau Pensiwn

  • Cyflogres
  • Cyflogres pensiynau
  • Hanes taliadau a data sefydlog credydwyr masnach

Nodiadau
1 Dylid ond darparu data gan asiantaethau lle y bydd wedi'i awdurdodi'n flaenorol gan y sefydliad hwnnw
2 Wedi'i ddarparu gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP)
3 Wedi'i ddarparu gan y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr (SLC)

Cyrff GIG sy'n cymryd rhan

 Corff  Craidd
Byrddau Iechyd Lleol ac
Ymddiriedolaethau'r GIG
  • Cyflogres (a chyflogres pensiynau)
  • Hanes taliadau a data sefydlog credydwyr masnach

Cyrff eraill sy'n cymryd rhan

 Corff  Craidd

Llywodraeth Cynulliad Cymru a Chyrff a
Noddir gan Lywodraeth y Cynulliad

  • Cyflogres
  • Hanes taliadau a data sefydlog credydwyr masnach

Swyddfa Archwilio Cymru
24 Heol y Gadeirlan
Caerdydd
CF11 9LJ

Ffôn: 029 2032 0500
Ffacs: 029 2032 0600
Ebost: info@wao.gov.uk

© Archwilydd Cyffredinol Cymru