Click here to skip to the main content
Hafan

Cymraeg / English

Hafan  Cysylltiadau allanol  Map o'r Safle  Dewisiadau Mynediad 
Pwy ydym ni? Beth rydym yn ei wneud Cyhoeddiadau Newyddion Y Gyfnewidfa Arfer Da
Hafan > Beth rydym yn ei wneud > Menter Twyll Genedlaethol > Llwytho data i lawr
Argraffu'r Dudalen
Llwytho data i lawr
Cyn i ddata gael ei echdynnu o systemau lleol, mae'n bwysig y caiff y canllawiau isod ar lwytho data i lawr eu hystyried:

I helpu'r broses hon gellir gweld detholiad o Gwestiynau Cyffredin ar dudalen Cwestiynau Cyffredin y Fenter Twyll Genedlaethol y Comisiwn Archwilio.

Dylid cyflwyno data gan ddefnyddio'r cyfleuster Llwytho Ffeil Data ar wefan ddiogel y Fenter Twyll Genedlaethol. Erbyn hyn dyma'r unig ffordd dderbyniol o roi data a bydd hysbysu'r Cyfarwyddwr Cyllid yn rhan o'n polisi os derbynnir data drwy unrhyw ffordd arall a fydd yn ei beryglu. Mae rhagor o fanylion ar gael yn yr adran ar gyflwyno Data.

Os bydd angen rhagor o ganllawiau arnoch o ran sut i echdynnu, cyflwyno neu lwytho data i lawr cysylltwch â Chanolfan Data y Fenter Twyll Genedaethol (Synectics Solutions Ltd) drwy e-bost (nationalfraudinitiative@nfi.gov.uk) neu ffoniwch 01782 664066 neu 664057.

Problemau cyffredin ac atebion 

Problem

Ateb

Ni chynhwyswyd systemau arwyddo hawl i brynu (h.y. defnyddir 'I' pan fydd yn mynd rhagddo, 'C' pan fydd wedi'i gwblhau) systemau arwyddo ôl-ddyledion tenantiaid blaenorol (h.y. 'F' am denant blaenorol) yn gywir i'r data rhenti tai.

Erbyn hyn mae angen cyflwyno data ar wahân ar gyfer ôl-ddyledion, hawl i brynu a thenantiaid arnom.

Dylid sicrhau y caiff prosesau echdynnu data eu dilysu cyn y caiff data ei gyflwyno.

Roedd rhywfaint o ddata hawl i brynu yn anghywir gan nad oedd data yn gysylltiedig â'r unigolyn a oedd wedi prynu'r eiddo

Dylid sicrhau y caiff prosesau echdynnu data eu dilysu cyn cyflwyno data.

Nid oedd modd agor ffeiliau sip yn hawdd.

Dylid gwirio ffeiliau sip i sicrhau bod modd eu hagor.

Cwtogir ar feysydd wrth gyflwyno data weithiau sy'n golygu nad yw'r data yn ddefnyddiol o gwbl.

Dylid edrych ar yr ychydig gofnodion cyntaf i sicrhau nad oes unrhyw feysydd wedi'u cwtogi.

Cynhwysai ffeiliau gofnodion o hyd amrywiol.

Os yw ffeil o led benodol, mae'n rhaid i bob cofnod yn y ffeil honno fod o'r un hyd

Derbyniwyd rhai ffeiliau heb unrhyw ddogfennaeth o gwbl a oedd yn ei gwneud yn anodd adnabod meysydd.

Dylid dilyn y cyfarwyddiadau llwytho data i lawr a chwblhau'r blychau priodol ar y sgriniau Llwytho Ffeiliau Data. Dylid anfon yr allwedd i unrhyw godau a ddefnyddir i nationalfraudinitiative@nfi.gov.uk.

Ni roddwyd cyfrineiriau gyda ffeiliau sip.

Dylid rhoi'r cyfrinair ar sgrîn Llwytho Ffeiliau Data, ffoniwch 01782 664066 neu 664057 neu e-bostiwch nationalfraudinitiative@nfi.gov.uk.

Ni chynhwyswyd meysydd allweddol megis Rhif Yswiriant Gwladol gan olygu bod angen ailgyflwyno'r data.

Dylid cyfeirio at y manylebau data sy'n amlinellu'r meysydd sydd eu hangen, cyn echdynnu neu gyflwyno data.

Cyflwynwyd gwerthoedd mewn fformat sy'n wahanol i'r hyn a nodir yn y Llawlfyr.

Os defnyddir fformat nad yw'n safonol, dylid marcio hyn ar y sgriniau Llwytho Ffeiliau Data.

Ni nodwyd meysydd gwerthoedd gwag a dim yn unol â'r fformatau data sy'n angenrheidiol i'r Fenter Twyll Genedlaethol, h.y., llenwyd meysydd gwag a dim gyda sero yn hytrach na llenwi'r bwlch.

Dylid sicrhau bod meysydd dim a gwag wedi'u nodi'n glir, gan ddefnyddio cod os bydd angen.

Cyflwyno maes data.

Mae rhai systemau yn nodi dyddiadau mewn fformat ddmmbb, sy'n cael eu llygru yn achos dyddiadau cyn 1930 ar ôl cael eu trosi ar daenlenni. I'r systemau hyn yn unig, dylech gyflwyno'r data heb ei drosi gan nodi hyn ar y sgrîn llwytho ffeiliau data.

Swyddfa Archwilio Cymru
24 Heol y Gadeirlan
Caerdydd
CF11 9LJ

Ffôn: 029 2032 0500
Ffacs: 029 2032 0600
Ebost: info@wao.gov.uk

© Archwilydd Cyffredinol Cymru