Click here to skip to the main content
Hafan

Cymraeg / English

Hafan  Cysylltiadau allanol  Map o'r Safle  Dewisiadau Mynediad 
Pwy ydym ni? Beth rydym yn ei wneud Cyhoeddiadau Newyddion Y Gyfnewidfa Arfer Da
Hafan > Beth rydym yn ei wneud > Menter Twyll Genedlaethol > Cyflwyno data
Argraffu'r Dudalen
Cyflwyno data
Mae cyfleuster llwytho electronig diogel ar gael bellach sy'n ei gwneud yn bosibl cyflwyno data'r Fenter Twyll Genedlaethol yn uniongyrchol o gyfrifiaduron lleol. Cynhwysir y cyfleuster hwn o fewn cymhwysiad gwe presennol diogel y Fenter Twyll Genedlaethol. Mae'n cynnwys offer amgryptio Haenau Socedi Diogel 128 darn ac mae modd diogelu cyfrinair ac mae'n darparu'r un amgylchedd mynediad rheoledig o ganlyniad.

Erbyn hyn Llwytho Ffeiliau Data yw'r unig ffordd dderbyniol o gyflwyno data i'r Fenter Twyll Genedlaethol. Os defnyddir unrhyw ddull cyflwyno arall mae'n bolisi gennym roi gwybod i'r Cyfarwyddwr Cyllid bod data wedi'i roi mewn perygl heb fod angen.

Er mwyn manteisio ar y cyfleuster cyflwyno data bydd angen i chi fewngofnodi ar wefan ddiogel y Fenter Twyll Genedlaethol https://www.nfi.gov.uk a dewiswch yr opsiwn Llwytho Ffeiliau Data o'r hafan.

Bydd hyn yn agor 'dewin cyflwyno data'r Fenter Twyll Genedlaethol' ac yn rhoi anogeiriau drwy gydol y broses.

Os bydd angen unrhyw ganllawiau arall arnoch mewn perthynas â llwytho data i offeryn gwe'r Fenter Twyll Genedlaethol, dylech gyfeirio at ddogfen Canllawiau llwytho ffeiliau datay Comisiwn Archwilio.

Fel arall i gael cymorth gydag echdynnu, llwytho neu gyflwyno data cysylltwch â Chanolfan Ddata'r Fenter Twyll Genedlaethol (Synectics Solutions Ltd) drwy e-bost (nationalfraudinitiative@nfi.gov.uk) neu ffoniwch 01782 664066 neu 01782 664057.

Swyddfa Archwilio Cymru
24 Heol y Gadeirlan
Caerdydd
CF11 9LJ

Ffôn: 029 2032 0500
Ffacs: 029 2032 0600
Ebost: info@wao.gov.uk

© Archwilydd Cyffredinol Cymru