Click here to skip to the main content
Hafan

Cymraeg / English

Hafan  Cysylltiadau allanol  Map o'r Safle  Dewisiadau Mynediad 
Pwy ydym ni? Beth rydym yn ei wneud Cyhoeddiadau Newyddion Y Gyfnewidfa Arfer Da
Hafan > Beth rydym yn ei wneud > Ein gwaith > Swyddfa Archwilio Cymru a iechyd
Argraffu'r Dudalen
Swyddfa Archwilio Cymru a iechyd
Mae Archwilydd Cyffredinol Cymru yn arcwhilio cyfrifon a baratowyd gan Fyrddau Iechyd Lleol ac Ymddiredolaethau’r GIG. Yn ogystal, mae rhaglen cenedlaethol o astudiaethau 'gwerth am arian'.

Yn y maes iechyd, mae'r reolaeth newydd yn rhwymo'r Swyddfa Archwilio i gyd-weithio gyda'r Cynulliad, y Comisiwn Archwilio (yn Lloegr), a'r Comisiwn Gofal Iechyd (Comisiwn Archwilio ac Arolygu Gofal Iechyd). Cytunwyd yn ddiweddar ar goncordat iechyd yng Nghymru rhwng y cyrff adolygu allanol sy’n arholygu, rheoleiddio ac archwilio iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru er mwyn cefnogi gwelliant mewn gwasanaethau i’r cleifion, defnyddwyr, ac er mwyn dileu’r baich ychwanegol o adolygu allanol. Cliciwch yma am gopi o’r Concordat ac yma am y llythr cysylltiedig.

Mewn partneriaeth â’r Comisiwn Gofal Iechyd, mae Swyddfa Archwilio Cymru yn darparu’r Portffolio Ysbyty Hirbarhaol sydd yn gyfeirnod datblygol ar gyfer meddygon a llunwyr polisi ar agweddau gofal eilradd yng Nghymru.

Portffolio Ysbyty Hirbarhaol

Mae’r Portffolio Ysbyty Hirbarhaol yn declyn gwella perfformiad ar gyfer ymddiriedolaethau’r GIG yng Nghymru sy’n cynnwys materion megis adranau Damweiniau ac Argyfwng, Staffio Ward, Gwasanaethau Patholeg a Rheolu Meddyginiaeth.

Pob blwyddyn, ychwanegir tri neu bedwar pwnc at y Portffolio neu ailymwelir ag ambell bwnc er mwyn mesur cynnydd. Mae fframwaith perfformiad ‘cerdyn sgorio’ yn cael ei ddatblygu ar gyfer pob pwnc, yna, cesglir data o pob ymddiriedolaeth yn Lloegr, Cymru a Gogledd Iwerddon (neu’n cael ei gymryd o adnoddau cenedlaethol lle’n bosibl).

Mae archwilwyr Swyddfa Archwilio Cymru yna’n darparu asesiad perfformiad wedi ei deilwra’n arbenning ar gyfer pob ymddiriedolaeth yng Nghymru, wedi ei selio ar gymhariaeth gyda’r data cenedlaethol. Mae’r dadansoddiad yn cymryd i ystyried amgylchiadau lleol pob ymddiriedolaeth.

Mae’r data wedi ei gasglu ar gyfer Cyfnod 5 o’r portffolio sy’n ymdrin â Damweiniau ac Argyfwng, Llawdriniaeth Undydd, a Staffio Ward.

Swyddfa Archwilio Cymru
24 Heol y Gadeirlan
Caerdydd
CF11 9LJ

Ffôn: 029 2032 0500
Ffacs: 029 2032 0600

© Swyddfa Archwilio Cymru