|
Cyflwyniad
Mae'r 22 cyngor yng Nghymru yn gyfrifol am:
- gynllunio gwasanaethau cyhoeddus i'r bobl sy'n byw yn ei hardal;
- gwendu trefniadau ar gyfer darparu gwasanaethau cyhoeddus.
Mae hyn yn golygu fod gan y cynghorau rôl allweddol i chwarae wrth warchod y bobl mwyaf bregus yn y gymued. Maent yn darparu gofal a chymorth i blant a pobl ifanc, yr henoed, pobl â problemau iechyd meddwl, pobl a anabledd dysgu yn ogystal a pobl ag anabledd corfforol neu synhwyraidd. Mae'r gwasanaethau cyhoeddus hefyd yn gofalu am y rheinu sydd yn gofalu am eraill, yn cynnwys gofalwyr ifanc.
Beth yw adolygu ar y cyd?
Mae adolygu ar y cyd yn golygu arolygu pob ardal o waith a wnaed gan wasanaeth cymdeithasol. Y mae'n digwydd pob pum mlynedd.
Mae'r adolygiad yn cael ei weithredu gan Arolygaeth Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru.
Mae tîm o ddau neu dri arholygwr yn treilio rhyw fis mewn ardal arbennig er mwyn aadolygu'r gwasanaeth. Mae'r arolygwyr yn bobl sydd â profiad eang o wasanaethau cyhoeddus ar draws Cymru. Mae'r tîm yn cynnwys aseswr lleyg - aeold o'r cyhoedd sydd â diddordeb mewn gwasanaethau cyhoeddus.
Beth yw pwrpas adolygu ar y cyd?
Pwrpas adolygu ar y cyd yw:
- hysbysu'r cyhoedd ar safon y gwasanaethau cymdeithasol;
- cynorthwyo'r gwasanaeth i wella
- helpu gofalu am ddirodebau defnyddwyr y wasanaeth a'r gofalwyr;
- sicrhau gwerth-am-arian mewn gwasanaethau cymdeithasol.
Ar ddiwedd pob adolygiad, mae'r adolygwyr yn cyhoeddu adroddiad. Mae hwn yn disgrifio beth sy'n dda am wasanaethau cymdeithasol yn lleol a lle mae'r angen mwyaf am welliant.
Yna, mae'r cyngor yn cynhyrchu cynllun, yn esbonio sut y mae'n bwriadu gwneud y newidiadau angenrheidiol.
|