Click here to skip to the main content
Hafan

Cymraeg / English

Hafan  Cysylltiadau allanol  Map o'r Safle  Dewisiadau Mynediad 
Amdanom ni Ein gwaith Cyhoeddiadau Newyddion Y Gyfnewidfa Arfer Da
Hafan > Ein gwaith > Sectorau > Llywodraeth Leol
Argraffu'r Dudalen
Llywodraeth Leol
Links

I weld pa adroddiadau rydym wedi ysgrifennu am eich awdurdod lleol, ewch i'r adran adroddiadau lleol ar ein gwefan.

I weld rhai o'r pynciau yr ydym wedi adrodd arnynt, y rhai sy'n berthnasol i'r sector llywodraeth leol.

Llywodraeth leol, sy'n cynnwys gwasanaethau tân ac achub a pharciau cenedlaethol, yw'r darparwr mwyaf o wasanaethau i bobl yng Nghymru.

Rydym yn adolygu awdurdodau lleol i wneud yn siwr eu bod yn cyfrifo’r arian cyhoeddus y maent yn ei wario, yn briodol.
Bob blwyddyn, rydym yn cynnal Asesiadau Gwella ar awdurdodau lleol. Mae'r rhain yn asesiadau gorffenedig o berfformiad pob awdurdod ac yn cynnwys y gwasanaethau y mae’n ei ddarparu, beth yw ei blaenoriaethau, a'r ffordd y mae'n trefnu ei hun i barhau i wella.

Mae hefyd yn adlewyrchu gwaith y rheoleiddwyr eraill, megis y rhai sy'n adolygu gwasanaethau cymdeithasol ac addysg.

Ein adroddiadau

Bob gwanwyn, mae’r Archwilydd Cyffredinol yn asesu sut y mae'r awdurdod yn trefnu ei hun i wella; megis sut y mae'r awdurdod yn defnyddio pobl a sut mae'n gwneud penderfyniadau. Mae'r canfyddiadau yn cael eu cyhoeddi mewn adroddiad o'r enw yr Asesiad Corfforaethol.

Yn yr hydref, mae'r Archwilydd Cyffredinol yn cyhoeddi adroddiad cynhwysfawr ar sut y mae'r awdurdod yn perfformio mewn gwirionedd, yn dangos sut y mae ei gynlluniau ar gyfer gwella yn gweithio yn ymarferol. Gelwir hyn yn Adroddiad Gwella Blynyddol.

Mae'r adroddiad Gwella Blynyddol yn crynhoi ein adroddiad Asesiad Corfforaethol yn ogystal â'r gwaith rheoleiddwyr eraill, ac y mae'n adrodd ar ba mor dda y mae'r awdurdod wedi perfformio. Mae'r adroddiad yn canolbwyntio ar y pethau y mae'r awdurdod wedi dweud ac yn ceisio gwella drwy ei Amcanion Gwella cyhoeddedig ei hun.

Swyddfa Archwilio Cymru
24 Heol y Gadeirlan
Caerdydd
CF11 9LJ

Ffôn: 029 2032 0500
Ffacs: 029 2032 0600
Ebost: info@wao.gov.uk

© Archwilydd Cyffredinol Cymru