Click here to skip to the main content
Hafan

Cymraeg / English

Hafan  Cysylltiadau allanol  Map o'r Safle  Dewisiadau Mynediad 
Pwy ydym ni? Beth rydym yn ei wneud Cyhoeddiadau Newyddion Y Gyfnewidfa Arfer Da
Hafan > Beth rydym yn ei wneud > Ein gwaith > Rhaglen Cymru ar Gyfer Gwella
Argraffu'r Dudalen
Rhaglen Cymru ar Gyfer Gwella
Cyflwynwyd Rhaglen Cymru ar Gyfer Gwella yng Nghymru yn 2002 fel ffordd newydd o gyfnerthu a chefnogi gwelliant mewn gwasanaethau cyhoeddus. O fewn y rhaglen, mae cynghorau yn edrych ar 'iechyd' y gyfundrefn gorfforaethol a perfformiad y gwasanaethau y maent yn darparu.
Cliciwch yma i weld Adroddiad Blynyddol Rhaglen Cymru ar gyfer Gwella 2007

Y Cylch Gwella

Mae proses Rhaglen Cymru ar Gyfer Gwella yn cynnwys cyfres o elfennau sy'n llywio prosesau corfforaethol a chynllunio cyllidebau cynghorau lleol:

  • asesiadau perfformiad blynyddol o'u gwasanaethau a'u swyddogaethau i sicrhau eu bod yn cyflawni amcanion strategol y cyngor ac i nodi cryfderau a gwendidau. O bryd i'w gilydd, gellir cynnal adolygiadau mwy sylfaenol pan fydd anawsterau neu bwysau sylweddol.
  • cytunir ar asesiad risg ar y cyd blynyddol rhwng y cyngor a'i reoleiddwyr i nodi cyfleoedd ar gyfer gwella, a bygythion i wella.
  • cynlluniau corfforaethol a chyllidebol sy'n ystyried canlyniadau'r asesiadau perfformiad blynyddol a'r asesiad risg ar y cyd.
  • cynllun gwella blynyddol sy'n darparu trosolwg o berfformiad y cyngor, gan ganolbwyntio ar ei flaenoriaethau ar gyfer gwella.
  • cynllun rheoliadol blynyddol sy'n dwyn ynghyd rhaglen waith gynlluniedig y rheoleiddwyr a'r arolygwyr.
  • monitro a gwerthuso camau gweithredu i'w cynnwys mewn cynlluniau strategol ac asesiadau blynyddol.

Gellir gweld canllawiau Llywodraeth Cynulliad Cymru ar Raglen Cymru ar gyfer Gwella yma.

Canllawiau Gweithredu

Bob blwyddyn, mae Swyddfa Archwilio Cymru yn cyhoeddi canllawiau gweithredu ar sut y mae rhai o brosesau Rhaglen Cymru ar gyfer Gwella yn gweithio. Cyhoeddwyd y canllawiau diweddaraf ar y Broses Asesu Risg ar y Cyd ym mis Ebrill 2008. Cyhoeddwyd Canllawiau ar Archwilio'r Cynllun Gwella (yn cynnwys yr Archwiliadau o Ddangosyddion Perfformiad a Mesurau Perfformiad) ym mis Mai 2008 ac mae ar gael ar gais.

Cyflwyno Adroddiadau ar Welliant

Mae Swyddfa Archwilio Cymru yn cyflwyno adroddiadau blynyddol ar gynnydd Rhaglen Cymru ar gyfer Gwella a gwelliant mewn llywodraeth leol. Cliciwch yma ar gyfer y fersiwn diweddaraf.

Cysylltu â ni

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Anthony Snow, Prif Swyddog Gweithredu, Swyddfa Archwilio Cymru

Jane Holownia, Partner Ymgysylltu, Rhaglen Cymru ar gyfer Gwella, Swyddfa Archwilio Cymru

Swyddfa Archwilio Cymru
24 Heol y Gadeirlan
Caerdydd
CF11 9LJ

Ffôn: 029 2032 0500
Ffacs: 029 2032 0600

© Swyddfa Archwilio Cymru