|
Mae gennych yr hawl i archwilio cyfrifon eich awdurdod lleol; holi'r archwilydd ynglyn â'r cyfrifon a herio'r cyfrifon fel y gwelir yn Neddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004. Mae genncyh hefyd yr hawl i dderbyn gwybodaeth na' wnelo a'r cyfrifon dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000. Gall eich awdurdod lleol ddarparu manylion ar ei cynllun cyhoeddiadau sy'n angenrheidiol i'w gynhyrchu dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000.
Am gopi o'r daflen, cliciwch yma.
Mae archwilwyr sy'n cael eu apwyntio gan Archwilydd Cyffredinol Cymru i archwilio cyrff awdurdodau lleol, be baent yn staff Swyddfa Archwilio Cymru neu'n gyfrifwyr mewn cwmnioedd preifat, yn gwneud hynny'n annibynol wrth yr Archwilydd Cyffredinol, er mae'n rhaid i pob archwiliwr a apwyntiwyd gan yr Archwilydd Cyffredinol ddilyn y Côd Ymarfer Archwilio ac Arolygu.
Mae cynghorau yn bodoli er mwyn gwasanaethu'r cyhoedd. Mae gna y mwyafrif linell gymorth er mwyn helpu pobl lleol i ddatrys unrhyw broblemau y maent yn cael gyda gwasanaethau, budd-daliadau, trethu lleol a taliadau eraill. Ond gall pethau fynd o chwith, hyd yn oed yn y cynghorau gorau. Mae'r daflen hon yn crynhoi eich hawliau i arolygu, cwestiynu a gwrthwynebu cyfrifon cyngor. Mae'n dechrau gyda amlinelliad cryno ac yna'n manylu os ydych eisiau mwy o wybodaeth.
Os ydych yn credu fod rhywbeth o'i le, dylech:
- rhoi galwad ffôn i'ch cyngor;
- ysgrifennu at y prif weithredwr - y clerc cymundeol mewn cynghorau cymuned; neu
- cysylltu â'r cynghorydd lleol.
Mae gan y mwyafrif o gynhorau system gwyno eu hun. Gellir datrys cwynion naill ai yn ysrifennedig neu dros y ffôn. Weithiau, fe fydd problemau yn codi a bydd rhaid i rhywun eraill ddelio a hwy.
- Os ydych yn credu fod eich cyngor wedi gwneud rhywbeth o'i le, a nid ydych yn hapus â'r modd mae'r cyngor wedi delio a'ch cwyn, dylech gysylltu â Ombwdsman Llywodraeth Leol. Bydd e'n danfon gwybodaeth ar sut i fynd â'r cwyn ymhellach.
- Os ydych yn amau fodrhywun yn twyllo neu'n camddefnyddio arian y cyngor, dylech ysgrifennu at neu rhoi galwad ffôn i archwilydd mewnol y cyngor. Gall y cyngor roi'r enw a cyfeiriad priodol i chi.
- Os ydych yn credu fod ymddygiad aeold o unrhyw gyngor wedi gostwng dan y safonnau uchel y dylir eu cynnal gan weision cifil, dylech gysylltu â Ombwdsman Llywodraeth Leol.
- Os hoffech gwestiynnu neu wrthwynebu cyfrifon eich cyngor, gall archwilydd allanol y cyngor fod o gymorth i chi. Yr Archwilydd Cyffredinol sydd yn apwyntio'r archwilydd allanol.
Crynodeb:
1. Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000
Mae Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn rhoi hawliau cyffredinol i chi gael gweld gwybodaeth 'wedi ei gofrestru' a gedwir gan yr awdurdodau lleol. Gellir cael gwybodaeth wrth awdurdod cyhoeddus trwy gynllun cyhoeddiadau wedi ei gymeradwyo. Ond, os nad yw'r wybodaeth wedi ei gynnwys yn y cynllun cyhoeddiadau, gallwch wneud cais ar wahan yn ôl y Ddeddf.
Rhaid gwneud cais yn ysgrifennedig, yn cynnwys trwy e-bost. Mae gan awdurdodau cyhoeddus 20 diwrnod i ateb cais. Mae gan awdurdodau lleol yr hawl i godi ffî am ateb eich cais; os nad yw'r ffî yn cael ei dalu o fewn tri mis, tybir na fod yr ymgeiswr eisiau'r wybodaeth.
Mae eithriadau i'r wybodaeth y gellir ei gael e.e. gwybodaeth sydd yn sensitif i'r busnes neu gwybodaeth bersonol. Os yw'r wybodaeth yr ydych wedi gofyn amdano'n eithriadol, fe fyddwch yn cael eich rhoi ar wybod o dan pa eithriad y gwrthododd yr awdurdod cyhoeddus roi'r wybodaeth i chi.
2. Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004
Mae gennych yr hawl i archwilio cyfrifon eich cyngor ac i holi'r achwilydd am y cyfrifon. Gall etholwyr y cyngor herio cyfirfon y cyngor. Ceir gwybodaeth am yr archwilydd priodol a sut a phwy i gysylltu gyda trwy:
• rhoi galwad ffôn i'r cyngor;
• rhoi galwad ffôn i Swyddfa Archwilio Cymru ar 02920 371022; neu
• e-bostio enquiries@wao.gov.uk.
3. Yr hawl i arolygu a gwenud copis o ddatganiad y cyfrifon ac aroddiad yr Archwilydd Unwaith y mae cyfrifon y cyngor wedi eu cwbwlhau o'r flwyddyn flaenorol, tua mis Mehefin neu Orffennaf, mae'n rhaid i'r cyngor hysbysu fod cyfirfon ar gael i'r cyhoedd i edrych arnynt. Gellir cael copiau i'r cyfrifon gan y cyngor. Gellir arolygu a gwneud copi o unrhyw adroddiad a wnaed i'r cyngor gan yr archwilydd.
4. Archwilio dogfennau a gofyn cwestiynau yn ystod yr archwiliad
Pan fydd eich cyngor wedi hysbysebu’r ffaith bod ei gyfrifon ar gael i’w harchwilio gallwch hefyd archwilio pob llyfr, gweithred, contract, bil, taleb a derbynneb sy’n berthnasol iddynt. Yna bydd gennych 20 diwrnod gwaith i fwrw golwg dros y cyfrifon a’r dogfennau atodol.
Ni allwch archwilio dogfennau nad ydynt yn berthnasol i’r cyfrifon neu a ddiogelir yn gyfreithiol fel arall. Dim ond gofyn cwestiynau i’r archwiliwr am y cyfrifon sy’n berthnasol i’r flwyddyn a archwilir y gallwch ei wneud.
Nid oes rhaid i’r archwiliwr ateb cwestiynau am bolisïau, cyllid a gweithdrefnau’r cyngor nac unrhyw beth arall nad yw’n berthnasol i’r cyfrifon. Ar y cam hwn, nid oes rhaid i’r archwiliwr ddweud p’un a yw’n credu bod rhywbeth y mae’r cyngor wedi’i wneud, neu eitem yn ei gyfrifon, yn anghyfreithlon.
5. Yr hawl i wrthwynebu’r cyfrifon
Os ydych yn un o etholwyr cofrestredig (ar y gofrestr etholiadol) y Cyngor, neu’n gynrychiolydd awdurdodedig rhywun ar y gofrestr honno, gallwch wrthwynebu’r cyfrifon neu’r eitemau ynddynt. Gallwch wrthwynebu’r cyfrifon am ddau reswm.
Os credwch fod un o eitemau’r cyfrifon yn anghyfreithlon, gallwch anfon gwrthwynebiad ysgrifenedig at yr archwiliwr (ystyrir hwn yn ‘hysbysiad gwrthwynebiad’ ffurfiol). Rhaid i chi roi rhesymau am eich gwrthwynebiad. Rhaid i’r archwiliwr ddod i benderfyniad ynghylch eich gwrthwynebiad a darparu datganiad o resymau os gofynnwch am hynny. Os na fyddwch yn fodlon ar y penderfyniad hwnnw, gallwch apelio i’r llysoedd.
Gallwch hefyd wrthwynebu os credwch fod rhywbeth yn y cyfrifon y dylai’r archwiliwr hysbysu’r cyhoedd amdano mewn ‘adroddiad lles y cyhoedd’. Unwaith eto, rhaid i chi roi eich rhesymau. Yn yr achos hwn, rhaid i’r archwiliwr benderfynu p’un a ddylid cymryd unrhyw gamau gweithredu.
Fel arfer bydd yr archwiliwr yn rhoi rhesymau am ei benderfyniad, ond nid oes rhaid iddo wneud hynny, ac ni allwch apelio i’r llysoedd. Fodd bynnag, ni allwch ddefnyddio’r ‘hawl i wrthwynebu’ hon i wneud cwyn bersonol neu i hawlio yn erbyn eich cyngor. Dylech gyflwyno cwynion personol neu hawliadau i’r Cyngor, eich Canolfan Cyngor ar Bopeth leol neu eich cyfreithiwr.
6. Beth arall y gallwch ei wneud
Gallwch roi gwybodaeth i’r archwiliwr sy’n berthnasol i’w gyfrifoldebau ar unrhyw adeg. Er enghraifft, gallwch hysbysu’r archwiliwr os credwch fod rhywbeth o’i le ar y cyfrifon neu ynghylch gwastraff ac aneffeithlonrwydd yn y modd y mae’r cyngor yn rhedeg ei wasanaethau. Nid oes rhaid i chi ddilyn unrhyw derfynau amser neu weithdrefnau. Dyma’r sefyllfa o ran sefydliadau’r GIG hefyd, lle nad oes gennych yr hawl i ofyn cwestiynau i’r archwiliwr am y cyfrifon, neu eu gwrthwynebu.
Nid oes rhaid i’r archwiliwr roi adroddiad manwl i chi ar unrhyw ymchwiliad i faterion a godwyd gennych, ond fel arfer bydd yn eich hysbysu o’r canlyniad cyffredinol os gofynnwch iddo wneud hynny.
Rhaid i gynghorau, ac felly trethdalwyr lleol, dalu’r gost o ymdrin â chwestiynau a gwrthwynebiadau. Bydd archwilwyr yn derbyn gwrthwynebiadau dilys ond byddant yn ystyried amryw ffactorau wrth benderfynu ar sut i ymdrin â hwy. Rhaid iddynt ystyried y costau dan sylw. Dim ond os ydynt o’r farn ei bod er lles y cyhoedd i barhau â’r gwrthwynebiad y byddant yn gwneud hynny. Os byddwch yn apelio i’r llysoedd, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu am hynny eich hun.
7. Eich hawliau mewn mwy o fanylder
Mae’r nodiadau hyn yn darparu gwybodaeth fanylach am eich hawl i archwilio, cwestiynu a gwrthwynebu cyfrifon y cyngor, ond eto gwybodaeth gyffredinol ydyw. Os bydd angen manylion mwy penodol arnoch, dylech gyfeirio at y deddfau, y rheoliadau a’r dogfennau eraill a grybwyllir yn y testun yn uniongyrchol, neu gael cyngor cyfreithiol.
Cofiwch nad oes gennych yr un hawliau mewn perthynas â chyfrifon cyrff a ariennir yn ganolog (megis Llywodraeth Cynulliad Cymru a chyrff y GIG) lle mai Archwilydd Cyffredinol Cymru sy’n gyfrifol am gynnal yr archwiliad ac nid un o’i archwilwyr penodedig.
8. Eich sefyllfa gyfreithiol
Nodir eich hawliau mewn perthynas â chyfrifon awdurdodau lleol yn adrannau 29, 30 a 31 Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004. Ceir y rheoliadau manwl sy’n nodi sut y gallwch ddefnyddio’r hawliau hyn yn y Rheoliadau Cyfrifon ac Archwiliadau.
9. Eich hawl i archwilio’r datganiad cyfrifon ac adroddiadau’r archwiliwr a gwneud copïau ohonynt
Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 – adran 29(1)
Nid yw'r rhan hon o'r ddogfen hon ar gael yn Gymraeg gan mai dyfyniad o ddeddfwriaeth nad yw wedi ei gwneud yn Gymraeg ydyw.
At each audit of a local government body scheduled under paragraph 12 of this Act, a local government elector for the area of a local government body in Wales may:
(a) at all reasonable times and without payment inspect and make a copy of any statement of accounts prepared by the body under the accounts and audit regulations;
(b) at all reasonable times and without payment inspect and make a copy of any report made to the body by an auditor;
Erbyn diwedd mis Gorffennaf bob blwyddyn, mae’r rhan fwyaf o awdurdodau lleol yn cwblhau’r gwaith o baratoi eu cyfrifon ar gyfer y flwyddyn ariannol a ddaeth i ben 31 Mawrth y flwyddyn honno. Rhaid iddynt hysbysu’r cyhoedd, drwy hysbysebu mewn un papur newydd lleol o leiaf, bod eu cyfrifon ar gael i bobl eu harchwilio am 20 diwrnod gwaith llawn. Gall Cynghorau Cymuned gyhoeddi hyn drwy osod hysbysiad mewn man cyhoeddus, yn hytrach na rhoi hysbyseb mewn papur newydd.
Gall unrhyw un â diddordeb archwilio’r cyfrifon ac unrhyw adroddiadau a gyhoeddir gan archwiliwr a gwneud copi ohonynt, neu ofyn am gopïau gael eu hanfon atynt (ar ôl talu ffi fach yn ôl disgresiwn y cyngor).
10. Archwilio dogfennau a gofyn cwestiynau yn ystod archwiliad
Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 – adran 30(1)
Nid yw'r rhan hon o'r ddogfen hon ar gael yn Gymraeg gan mai dyfyniad o ddeddfwriaeth nad yw wedi ei gwneud yn Gymraeg ydyw.
At an audit of accounts an interested person may:
(a) inspect the accounts to be audited and all books, deeds, contracts, bills, vouchers and receipts relating to them, and
(b) make copies of all or any part of the accounts and those other documents.
Rhaid i gynghorau hefyd hysbysebu’r ffaith bod y dogfennau eraill a grybwyllir yn adran 30(1) Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 ar gael i bobl eu harchwilio am 20 diwrnod gwaith llawn. Rhaid i’r hysbyseb neu’r hysbysiad hefyd roi’r dyddiadau, amseroedd a mannau lle y gall y cyhoedd weld y dogfennau a gwneud copïau ohonynt.
Mae’n drosedd i unrhyw un geisio eich atal rhag archwilio dogfennau a gwneud copi ohonynt, er y disgwylir i chi drefnu amser cyfleus ar y ddwy ochr i wneud hynny. Os ceir unrhyw anghytundeb ynghylch eich hawliau, dylech gysylltu â’ch cyngor yn uniongyrchol neu drwy’r llysoedd. Ni all yr archwilydd ymwneud â hyn.
Ni allwch archwilio dogfennau sy’n cynnwys gwybodaeth bersonol am aelod o staff, na gwneud copïau ohonynt, (gweler adran 30(3) Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2003). Golyga hyn, er enghraifft, y bydd manylion am daliadau neu fudd-daliadau eraill y mae cyflogai yn eu derbyn yn gyfrinachol. Ni all y cyngor ac archwiliwr roi gwybodaeth bersonol i chi am unrhyw un pan fyddant yn ateb eich cwestiynau.
11. Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 – adran 30(2)
Nid yw'r rhan hon o'r ddogfen hon ar gael yn Gymraeg gan mai dyfyniad o ddeddfwriaeth nad yw wedi ei gwneud yn Gymraeg ydyw.
At the request of a local government elector for the area to which the accounts to be audited the auditor of those accounts must give an elector or any representative of his an opportunity to question the auditor about the accounts.
Bydd yr hysbyseb neu’r hysbysiad sy’n nodi bod y cyfrifon ar gael i bobl eu harchwilio hefyd yn nodi pryd y gallwch ofyn cwestiynau i’r archwiliwr a gwrthwynebu’r cyfrifon. Cyfyngir ar eich hawl i ofyn cwestiynau i’r archwiliwr. Mae gennych yr hawl i ofyn cwestiynau am y cyfrifon, ond ni allwch ofyn cwestiynau am bolisïau, cyllid neu weithdrefnau cyngor nad ydynt yn ymwneud â’r cyfrifon.
Cyn i chi ofyn unrhyw gwestiynau i’r archwiliwr, dylech archwilio’r cyfrifon fel eich bod yn gwybod beth sydd ynddynt. Yna gallwch ofyn i’r archwiliwr egluro rhai pwyntiau yn y cyfrifon cyn penderfynu p’un a ydych am ‘wrthwynebu’ ai peidio (caiff yr hawl hwn ei hegluro yn ddiweddarach).
Os byddwch yn gofyn cwestiynau nad ydynt yn ymwneud â’r cyfrifon, efallai y bydd yr archwiliwr yn awgrymu eich bod yn gofyn i’r cyngor am y wybodaeth. Ond, yn gyffredinol, ni all yr archwiliwr weithredu fel cyfrwng i chi ofyn cwestiynau i’r cyngor a chael ymateb ganddo.
Dylai eich cwestiynau ymwneud â ffeithiau, nid barn. Felly ni ddylech ofyn i archwiliwr p’un a yw o’r farn bod rhywbeth y mae cyngor wedi’i wneud, neu eitem yn ei gyfrifon, yn gyfreithlon neu’n rhesymol. Rhaid i archwiliwr weithio’n annibynnol felly ni allwch ofyn cwestiynau iddo ynghylch y modd y mae’n cyflawni ei waith, neu wedi cyflawni ei waith.
12. Gwrthwynebu’r cyfrifon
Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 – adran 31(1):
Nid yw'r rhan hon o'r ddogfen hon ar gael yn Gymraeg gan mai dyfyniad o ddeddfwriaeth nad yw wedi ei gwneud yn Gymraeg ydyw.
At an audit of accounts a local government elector for the area to which the accounts relate, or any representative of his, may make objections to the auditor as to:
(a) any matter in respect of which the auditor has a power to apply for a declaration that an item of account is unlawful;
(b) any other matter in respect of which the auditor has the power to make an immediate or other report in the public interest
Gallwch chi, neu eich cynrychiolydd, wrthwynebu os credwch y dylai archwiliwr:
• wneud cais i’r Uchel Lys, o dan adran 32(1) Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004, i gadarnhau bod eitem yn y cyfrifon yn torri’r gyfraith;
• llunio adroddiad, o dan adran 22 Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004, ar fater y dylai’r cyngor ei ystyried, yn ei farn ef, neu y dylent hysbysu’r cyhoedd amdano (‘adroddiad er lles y cyhoedd’)
13. Eitemau yn y cyfrifon sy’n torri’r gyfraith
Bydd eitem yn y cyfrifon yn torri’r gyfraith os yw’n cofnodi gwariant neu incwm:
• nad oes gan y cyngor yr hawl i’w wario na’i dderbyn;
• a wariwyd neu a dderbyniwyd heb awdurdod;
• a dynnwyd o’r gronfa neu’r cyfrif anghywir, neu a ychwanegwyd iddynt;
• a wariwyd at ddiben cyfreithlon ond a oedd mor uchel fel ei fod yn anghyfreithlon.
Os bydd archwiliwr o’r farn bod eitem yn anghyfreithlon, gall wneud cais i’r Uchel Lys i gadarnhau bod eitem yn y cyfrifon yn anghyfreithlon. Os bydd y llys yn cytuno, gall orchymyn bod y cyfrifon yn cael eu hunioni. Wrth ddod i benderfyniad ynghylch p’un a ddylai wneud cais i’r llys, bydd yr archwiliwr yn ystyried nifer o ffactorau, gan gynnwys y gost.
14. Adroddiad er lles y cyhoedd
Os na fyddwch yn fodlon ar benderfyniad cyngor neu gamau gweithredu a gymerwyd ganddo ond nad yw eich gwrthwynebiad yn ymwneud ag unrhyw beth anghyfreithlon neu fethiant i gyfrif am wariant neu incwm, dim ond llunio adroddiad er lles y cyhoedd y gall yr archwiliwr ei wneud – yn amodol ar yr archwiliwr yn cytuno bod y mater yn briodol ar gyfer adroddiad o’r fath.
15. Gwneud gwrthwynebiad
Os byddwch am wrthwynebu cyfrifon cyngor, rhaid i chi gyflwyno hysbysiad ffurfiol o’ch gwrthwynebiad, yn ysgrifenedig, i’r archwiliwr. Rhaid i’r hysbysiad ffurfiol gynnwys y canlynol:
• pam eich bod yn gwrthwynebu;
• manylion unrhyw eitem yn y cyfrifon sy’n anghyfreithlon yn eich barn chi;
• manylion unrhyw fater y dylai’r archwiliwr lunio adroddiad er lles y cyhoedd yn ei gylch, yn eich barn chi.
Rhaid i chi hefyd anfon copi o’ch gwrthwynebiad i’r cyngor. Eglura Deddf Llywodraeth Leol 1972 sut i gyflwyno hysbysiadau i gynghorau. Noda Adran 231(1) y Ddeddf y canlynol ynghylch hysbysiad:
Nid yw'r rhan hon o'r ddogfen hon ar gael yn Gymraeg gan mai dyfyniad o ddeddfwriaeth nad yw wedi ei gwneud yn Gymraeg ydyw.
...shall be given or served by addressing it to the local authority and leaving it at, or sending it by post to, the principal office of the authority or any other office of the authority specified by them as one at which they will accept documents of the same description as that document.
Pan fyddwch yn ystyried p’un a ddylid gwrthwynebu ai peidio, rhaid i chi ddeall bod gan gynghorau'r pwer i benderfynu ar yr hyn sydd orau yn eu barn hwy. Nid yw’r ffaith eich bod yn anghytuno’n gryf â rhywbeth y mae’r cyngor wedi’i wneud yn golygu y gallwch herio’r penderfyniad hwnnw.
Ni all archwiliwr a llys gwestiynu polisi neu benderfyniadau cyngor oni bai eu bod yn anghyfreithlon. Os byddwch yn penderfynu gwrthwynebu, ac os yw eich gwrthwynebiad yn cynnwys gwybodaeth bersonol neu sensitif, dylech nodi hynny’n briodol er mwyn osgoi’r risg y gallai person amhriodol weld y wybodaeth. Er na ellir gwarantu unrhyw beth, gallwch ddangos hyn drwy roi ‘Preifat a chyfrinachol - at sylw’r Prif Weithredwr (neu’r Clerc)’ ar y gwrthwynebiad a’r amlen.
Ni allwch ddefnyddio’r broses wrthwynebu i wneud cwyn bersonol neu hawliad yn erbyn y cyngor. Os credwch fod eich cyngor wedi gwneud rhywbeth o’i le, bydd yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus yn ymchwilio i’r mater. Os credwch fod ymddygiad aelod o’r cyngor yn is na’r safonau y disgwylir i weision cyhoeddus eu cyrraedd, bydd yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus yn ymchwilio i’r mater. Os credwch fod gennych hawliad yn erbyn cyngor, gallwch gael cyngor gan eich Canolfan Cyngor ar Bopeth leol, Canolfan y Gyfraith leol neu eich cyfreithiwr.
16. Penderfyniadau ynghylch eich gwrthwynebiad
Pan fydd archwiliwr yn cyhoeddi ei benderfyniad ynghylch gwrthwynebiad, bydd fel arfer yn egluro ei resymau am y penderfyniad. Os na fydd yr archwiliwr yn rhoi rheswm, mae gennych 14 diwrnod o’r adeg y’ch hysbyswyd o’r penderfyniad i ofyn i’r archwiliwr am ‘ddatganiad o resymau’ yn ysgrifenedig. Os na fyddwch yn fodlon ar benderfyniad archwiliwr gallwch apelio. Rhaid i chi gofrestru eich apêl yn Llys y Goron yn yr Uchel Lys o fewn 28 diwrnod i dderbyn datganiad o resymau’r archwiliwr ynghylch ei benderfyniad.
Mae penderfyniad archwiliwr ynghylch gwrthwynebiadau sy’n gofyn iddo lunio ‘adroddiad er lles y cyhoedd’ yn derfynol. Bydd yr archwiliwr yn eich hysbysu o’i benderfyniad ond ni allwch ofyn am ddatganiad o resymau nac am apêl.
17. Cyfeiriadau defnyddiol
Archwilydd Cyffredinol Cymru
Ty Deri 2/4 Park Grove Caerdydd CF10 3PA Ffôn: 0209 371022 E-bost: enquiries@wao.gov.uk Ffacs: 020 7976 6187
Gwefan: http://www.wao.gov.uk/
Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru,
1 Ffordd yr Hen Gae Pencoed CF35 5LJ Ffôn: (01656) 641 150 Ffacs: (01656) 641 199
www.ombudsman-wales.org
E-bost ask@ombudsman-wales.org.uk
Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth - Cymru 2 Alexandra Gate Ffordd Pengam Caerdydd CF24 2SA Rhif Ffôn 02920 894929
E-bost: Wales@ico.gsi.gov.uk
Rhif Ffacs. 02920 894930
Gwefan: www. informationcommissioner.gov.uk
|