| Newyddion diweddaraf |
|
Galw Iechyd Cymru 15 Medi Mae’r adroddiad Galw Iechyd Cymru wedi cael ei gyhoeddi, cliciwch yma am fanylion.
|
Beth ydym yn ei wneud?
Rydym wedi lawnsio astudiaeth i effeithiolrwydd gwasanaethau gofal heb ei drefnu yng Nghymru a hoffem i aelodau’r cyhoedd gysylltu â ni gyda’u barn a’u profiadau.
Mae gofal heb ei drefnu yn derm a ddefnyddir i ddisgrifio unrhyw ofal iechyd neu ofal cymdeithasol heb ei gynllunio – yn amrywio o driniaeth frys yn yr ysbyty, i gleifion y mae angen help arnynt i ofalu amdanynt eu hunain gartref.

Pam rydym yn edrych ar hyn?
Mae natur gymhleth y system gofal heb ei drefnu bresennol yn gallu peri dryswch i aelodau o’r cyhoedd wrth iddynt ddewis ble i fynd am gymorth ac fe allant fynd at wasanaeth penodol pan allai fod wedi bod yn well iddynt fynd i rywle arall. Gall hyn, yn ei dro, arwain at roi pwysau ar wasanaethau gofal heb ei drefnu, megis y gwasanaeth ambiwlans ac adrannau achosion brys.
Os bydd angen mwy nag un gwasanaeth, nid yw’r gwasanaethau hyn yn gweithio’n effeithiol gyda’i gilydd o hyd. Gall fod oedi wrth ddarparu gofal hefyd pan gaiff rhywun ei drosglwyddo rhwng gwasanaethau.
Bydd ein hastudiaeth yn edrych ar y system gyfan o ofal heb ei drefnu yng Nghymru. Byddwn yn defnyddio’r darganfyddiadau o’r gwaith a gyhoeddwyd gennym ym Mehefin 2008 ar y gwasanaeth ambiwlans yng Nghymru, byddwn hefyd yn ystyried yr agweddau canlynol ar ofal heb ei drefnu yn fanwl:
- Galw Iechyd Cymru – ystyried ei gost effeithiolrwydd a’i rôl yn y dyfodol;
- Damweiniau ac achosion brys – ystyried targed drosglwyddo’r cleifion, y modd y mae’r data yn cael ei gofnodi ac a ydy’r targed o gymorth i wella capasiti criw yr ambiwlans; a
- Gwasanaethau y tu allan i oriau – bydd hyn yn cynnwys adolygiad o wasanaethau gofal sylfaenol, gofal cymdeithasol ac iechyd meddwl y tu allan i oriau.
Am wybodaeth pellach, cysylltwch â Stephen Lisle ar 029 2032 0610 neu ebost stephen.lisle@wao.gov.uk os gwelwch yn dda.
Am ymholiadau cyffredinol:
Ebost: info@wao.gov.uk Ffôn: 029 2032 0521
|