Click here to skip to the main content
Hafan

Cymraeg / English

Hafan  Cysylltiadau allanol  Map o'r Safle  Dewisiadau Mynediad 
Amdanom ni Ein gwaith Cyhoeddiadau Newyddion Y Gyfnewidfa Arfer Da
Hafan > Ein gwaith > Côd ymarfer archwilio ac arolygu
Argraffu'r Dudalen
Côd ymarfer archwilio ac arolygu
Pan ddaeth Swyddfa Archwilio Cymru i fodolaeth yn 2005, paratodd Archwilydd Cyffredinol Cymru god ymarfer o dan adran 16 o ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004.

Mae’r Cod yn pennu’r ffordd y mae’r archwilwyr yn cyflawni eu swyddogaethau, ac yn ymgorffori’r hyn sy’n ymddangos i’r Archwilydd Cyffredinol i fod yr ymarfer proffesiynnol gorau. Mae’r Cod yn berthnasol yn ôl statud i waith yr archwilwyr penodedig o gyrff llywodraeth leol, ac ar sail wirfoddol i bob maes arall o’n gwaith archwilio ac arolygu.

Rydym nawr yn diwygio’r Cod, gan gymryd i ystyriaeth deddf Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 a newidiadau eraill sydd wedi digwydd ers 2005. Ein bwriad yw y bydd y Cod diwygiedig, sydd angen ei gymeradwyo gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, yn cael ei gyhoeddi ac yn dod i rym ar 1 Ebrill 2010.

Byddem yn gwerthfawrogi eich barn am ddrafft ymgynghori’r Cod diwygiedig. Byddai’n ddefnyddiol pe gallech ymateb cyn 29 Ionawr 2010 drwy ebost i’r Archwilydd Cyffredinol code@wao.gov.uk neu drwy’r post i’r cyfeiriad isod.

Cliciwch yma am gopi o ddraft ymgynghori o’r Cod diwygiedig

Cliciwch yma am gopi o’r Cod bresennol.

Prif awdurdodau statudol ar gyfer swyddogaeth Archwilydd Cyffredinol Cymru a'i archwilwyr penodedig.

Datganiad o gyfrifoldebau Archwilydd Cyffredinol Cymru a'r cyrff a archwilir ganddo (2008).

Datganiad o gyfrifoldebau'r archwilwyr a benodir gan Archwilydd Cyffredinol Cymru a'i arolygwyr, a'r cyrff a archwilir ac a arolygir ganddynt (2008)

Cliciwch yma am Ddatganiad o gyfrifoldebau archwilwyr a chynghorau lleol bach.

Swyddfa Archwilio Cymru
24 Heol y Gadeirlan
Caerdydd
CF11 9LJ

Ffôn: 029 2032 0500
Ffacs: 029 2032 0600
Ebost: info@wao.gov.uk

© Archwilydd Cyffredinol Cymru