|
Polisi Rhyddid Gwybodaeth Swyddfa Archwilio Cymru
1. Mae Swyddfa Archwilio Cymru yn cydnabod gwerth agoredrwydd i hyrwyddo ymddiried ac atebolrwydd mewn busnes cyhoeddus, i alluogi gwell dealltwriaeth cyhoeddus o sut y mae awdurdodau cyhoeddus yn gweithredu eu dyletswyddau, ac i atal anweddustra a pherfformiad gael. Mae'r crynodeb hwn yn esbonio sut y mae Swyddfa Archwilio Cymru yn mynd i fynd ati i gydymffurfio â Deddf Rhyddid Gwybodateh 2000 a'r ddeddfwriaeth berthnasol, a sut y mae'n mynd i lwyddo i fod yn agored yn gyffredinol.
Agwedd cyffredinol at agoredrwydd
2. Yn ogystal â cydymffurfio gyda Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a'r ddeddfwriaeth berthnasol, mae Swyddfa Archwilio Cymru yn ymroddedig i:
- ddefnyddio iaith glir, eglur, yn cynnwys eglurhâd o dermau technegol er budd y darllenydd lleyg;
- cyhoeddi adroddiadau cryno, cywir, teg, sydd wedi eu strwythuro'n dda;
- adrodd gwybodaeth yn gyhoeddus, ag eithrio pan fod rhesymau cyfreithiol yn atal hyn rhag digwydd;
Agwedd cyffredinol at gydymffurfio gyda deddfwriaeth rhyddid gwybodaeth
3. Mae Swyddfa Archwilio Cymru, mor bell ag sy'n rhesymol bosibl, yn
- darparu cyngor a chymorth i aeolodau o'r cyhoedd sy'n gwneud cais neu am wneud cais am wybodaeth;
- ymgynghori unrhyw drydydd person priodol ynglyn â cheisiadau;
- darparu cymaint o wybodaeth ag sy'n bosibl yn gyfreithlon heb achosi niwed heb angen i ddiddordeb y cyhoedd;
- ymateb yn gyflym
- darparu'r wybodaeth yn y ffordd y mae'n well gan y ceisiwr
- ymchwilio a darparu ymateb ystyriol i gwynion am y modd y mae Swyddfa Archwilio Cymru wedi delio â cais, a materion eraill yn ymwneud â rhyddid gwybodaeth, megis y cynllun cyhoeddiadau.
Darparu cyngor a chymorth i aeolodau o'r cyhoedd sy'n gwneud cais neu am wneud cais
4. Mae Swyddfa Archwilio Cymru, mor bell ag sy'n rhesymol bosibl, yn darparu cyngor a chymorth i aeolodau o'r cyhoedd sy'n gwneud cais neu am wneud cais am wybodaeth. Dylai unrhyw un sydd angen cymorth wrth geisio am wybodaeth gysylltu a ni ar 02920 260 260.
5. Pan fod aelod o'r cyhoedd yn methu gwneud cais yn ysgrifennedig dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, er engrhaifft, oherwydd anabledd, dylid anfon nodyn ysgrifennedig o'r cais dros y ffôn at y person a wnaeth y cais er mwyn ri gadarnhau. Fe dderbynnir y cais hwn fel cais ysgrifennedig pan y'i ddychwelir at Swyddfa Archwilio Cymru.
Ymgynghori unrhyw drydydd person priodol ynglhyn â cheisiadau
6. Gall datguddio gwybodaeth effeithio ar drydydd person, megis lle mae gwybodaeth yn agored i ddyletwsydd cyfraeth gyffredin i ymddiredolaeth, neu lle y mae'n cynnwys 'data bersonol' yn ol ddadansoddiad Deddf Gwarchod Data 1998. Felly er mwyn sirhau fod yr hawliau yma'n cael ystyriaeth lawn, bydd Swyddfa Archwilio Cymru yn ymgynghori gyda unrhyw drydydd person, heblaw am pan nad yw hyn yn addas neu y mae'n eithriadol o ddrud. I gydymffurfio gyda'r Deddf Rhyddid Gwybodaeth, Swyddfa Archwilio Cymru fydd, yn y oen draw, yn pernderfynnu a'i datguddio'r wybodaeth a'i peidio.
Darparau gwybodaeth yn gyfreithlon sydd o ddiddordeb i'r cyhoedd
7. Yn gyffredinol, bydd Swyddfa Archwilio Cymru yn datguddio gwybodaeth sydd ar gael iddi heblaw;
bwriedir cyhoeddu'r wybodaeth yn y dyfyodol ac y mae'n rhseymol aros am y cyhoeddiad;
byddai'n golygu darparu gwybodaeth a ellir cael yn rhesymol rwydd o rhywle arall, ac a fyddai'n fwy priodol i ofyn amdano wrth rhywun arall. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth sydd ar gael yng nghynllun cyhoeddiadau'r Archwilydd Cyffredinol/Swyddfa Archwilio Cymru neu o ffynonellau masnachol;
|