|
Os ydych yn meddwl am wneud datgeliad ac yn ansicr beth yw eich hawliau cyfrieithiol, dylech ystyried cael cyngor cyfrieithiol annibynnol.
Os hoffech gael cyngor am ddim a chyfrinachol ar ba wybodaeth a amddiffynwyd o dan y Ddeddf Datgelu ar Lles y Cyhoedd 1998, a beth yw’r ffordd orau i godi pryderon, dylech gysylltu â Pryderon Cyhoeddus yn y Gwaith (elusen annibynnol) ar 0207 404 6609 neu ymwelwch â’u gwefan ar http://www.pcaw.co.uk/.
Os ydych yn poenu am dwyll neu lygredd o fewn y GIG, dylech gysylltu â llinell Gwasanaeth Gwrth Dwyll y GIG ar 0800 0284 060 neu ymweld â http://www.cfsms.nhs.uk/ am fwy o wybodaeth.
Os ydych yn poenu am gamymddwyn yn eich lle gwaith nad yw’n ymwneud â busness cyhoeddus, gwerth am arian, twyll neu lygredd, ymwelwch â http://www.berr.gov.uk/ am fanylion ynglyn â pobl penodedig eraill a all eich helpu. Gall Pryder Cyhoeddus yn eich Lle Gwaith roi cyngor i chi am y sefydliadau mwyaf priodol i gysylltu â hwy.
Os ydych yn gyflogwr ac eisiau mwy o wybodaeth am sut y gall Swyddfa Archwilio Cymru eich cynorthwyo i hybu chwythu’r chwiban, ysgrifenwch at ein Swyddog PIDA yn Swyddfa’r Archwilydd Cyffredinol yng Nghymru.
|