Click here to skip to the main content
Hafan

Cymraeg / English

Hafan  Cysylltiadau allanol  Map o'r Safle  Dewisiadau Mynediad 
Amdanom ni Ein gwaith Cyhoeddiadau Newyddion Y Gyfnewidfa Arfer Da
Hafan > Amdanom ni > Archwilydd Cyffredinol Cymru
Argraffu'r Dudalen
Archwilydd Cyffredinol Cymru

Newyddion diweddara

Bydd yr Archwilydd Cyffredinol Cymru parhaol newydd # Huw Vaughan Thomas # yn dechrau ei swydd ar 1 Hydref 2010.

Am wybodaeth cefndirol pellach, darllenwch ein datganiad i’r wasg.

Mae’r Archwilydd Cyffredinol, Gillian Body, yn gyfrifol am rediad dyddiol Swyddfa Archwilio Cymru.

Mae Swyddfa Archwilio Cymru yn cyhoeddi adroddiadau ar ran yr Archwilydd Cyffredinol:

  • a apwyntiwyd gan Ei Mawrhydi Y Frenhines 
  • s’yn anibynnol
  • sy’n adrodd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru
  • sy’n atebol gan Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad Cenedlaethol o reolaeth ariannol a gwaith Swyddfa Archwilio Cymru.

Mae Swyddfa Archwilio Cymru yn helpu’r Archwilydd Cyffredinol drwy archwilio, ar ei rhan, amryw o agweddau ar sut mae cyrff cyhoeddus yng Nghymru yn gweithio.
Yr Archwilydd Cyffredinol yw archwilydd allanol:

  • Llywodraeth Cynulliad Cenedlaethol a’i cyrff noddedig a chysyllteidig 
  • Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru 
  • cyrff y Gwasanaethau Iechyd Gwladol (GIG) yng Nghymru

Mae’r Archwilydd Cyffredinol hefyd yn apwyntio archwilwyr allanol cyrff llywodraeth leol yng Nghymru, gan gynnwys awdurdau unedol, heddlu, awdurdodau prawf, awdurdodau tân ac achub, parciau cenedlaethol a chynghorau cymunedol.

Ynghyd â chynnal archwilio ariannol, rôl yr Archwilydd Cyffredinol ydyw i edrych ar sut mae cyrff cyhoeddus yn rheoli ac yn gwario arian y cyhoedd, gan gynnwys cyflawni gwerth yn y ddarpariaeth o wasanaethau cyhoeddus.

Mae swydd yr Archwilydd Cyffredinol yn apwyntiad statudol gan Ei Mawrhydi Y Frenhines yn unol â gofynion atodlen 8 Deddf Llywodraeth Leol 2006.
Crëwyd Swyddfa Archwilio Cymru yn 2005 drwy uno y Swyddfa Archwilio Genedlaethol yng Nghymru a'r Comisiwn Archwilio yng Nghymru.

Swyddfa Archwilio Cymru
24 Heol y Gadeirlan
Caerdydd
CF11 9LJ

Ffôn: 029 2032 0500
Ffacs: 029 2032 0600
Ebost: info@wao.gov.uk

© Archwilydd Cyffredinol Cymru