|
Ar 1 Ebrill 2005 fe wnaeth Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) uno swyddfa y Comisiwn Archwilio yng Nghymru a'r Swyddfa Archwilio Cenedlaethol yng Nghymru o dan reolaeth Archwilydd Cyffredinol Cymru i greu Swyddfa Archwilio Cymru.
Yn flaenorol rol y Swyddfa Archwilio Cenedlaethol yng Nghymru oedd archwilio ar ran Archwilydd Cyffredinol Cymru, y Cynulliad ac asiantaethau y llywodraeth yng Nghymru. Roedd y Comisiwn Archwilio yng Nghymru yn gyfrifol am archwilio ac arolygu gwasanaethau cyhoeddus lleol yng Nghymru. Roedd y ddau gorff yn cynnal astudiaethau gwerth am arian ac yn cyhoeddi adroddiadau ar eu darganfyddiadau.
Erbyn hyn mae gan Gymru gorff unigol i archwilio ac arolygu, mae'n gyfrifol am archwiliad blynyddol dros £19 biliwn o wariant cyhoeddus ar bob lefel o weinyddiaeth.
|