Mae eich sylwadau’n bwysig
Nod Archwilydd Cyffredinol Cymru (yr Archwilydd) yw sicrhau bod ei staff a’i archwilwyr penodedig yn cyflawni eu gwaith i’r safonau proffesiynol uchaf, felly mae angen iddo wybod p’un a oes gennych unrhyw bryderon neu p’un a ydych yn anfodlon ar unrhyw ran o’n gwaith. Rhydd cwynion y cyfle i ni unioni pethau pan wnaed camgymeriadau a gwella ar ansawdd ein gwasanaethau. Rydym yn cymryd cwynion o ddifrif, a byddwn yn ymchwilio iddynt yn drylwyr ac yn onest, gan roi ateb i chi mor gyflym â phosibl.
Am gopi o'r daflen, cliciwch yma.
Os oes gennych sylwadau neu gwestiynnau, hoffem glywed gennych o hyd.
Yr hyn y gallwch gwyno amdano
Gwnawn ystyried cwynion am y materion canlynol, cyn belled â’ch bod yn cwyno o fewn chwe mis i’r digwyddiad neu’r adeg pan dynnwyd eich sylw ato.
- Y modd y mae’r Archwilydd yn cyflawni ei ddyletswyddau cyfreithiol – er enghraifft, penodi archwilwyr a chyhoeddi adroddiadau.
- Gwaith staff Swyddfa Archwilio Cymru ac archwilwyr penodedig, gan gynnwys methiant i ddilyn y Cod Ymarfer Archwilio ac Arolygu.
- Nwyddau a gwasanaethau a ddarperir gan yr Archwilydd – er enghraifft, cyhoeddiadau, cynadleddau a digwyddiadau.
- P’un a yw’r prosesau a ddilynir gan staff Swyddfa Archwilio Cymru ac archwilwyr penodedig, ac unrhyw un arall sy’n ymwneud ag unrhyw agwedd ar waith yr Archwilydd, yn rhesymol.
- Ymddygiad staff Swyddfa Archwilio Cymru ac archwilwyr penodedig.
- Ni allwn ymchwilio i gwynion ynghylch y canlynol.
- Y polisïau a’r penderfyniadau a wneir gan sefydliadau a archwilir gan Swyddfa Archwilio Cymru neu archwilwyr a benodwyd gan yr Archwilydd, neu’r gwasanaethau a ddarperir ganddynt. Dylech gyfeirio’r cwynion hyn at y sefydliad ei hun, oherwydd dylai fod ganddo ei weithdrefn gwyno ei hun.
- Rheolaeth wael neu aneffeithlon (a elwir yn ‘gamweinyddu’) gan sefydliadau a archwilir, sy’n achosi anghyfleustra i rywun neu sy’n ei roi o dan anfantais. Dylech gyfeirio’r cwynion hyn at yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus yng Nghymru.
- Os byddwch yn anghytuno ag unrhyw benderfyniadau a wnaed gan yr Archwilydd neu ei archwilwyr penodedig tra’n cyflawni eu dyletswyddau cyfreithiol. Dim ond y llysoedd a all adolygu’r penderfyniadau hyn.
Sut i gwyno
Os na fyddwch yn fodlon ar waith staff Swyddfa Archwilio Cymru neu archwilwyr a benodwyd gan yr Archwilydd, dylech roi’r cyfle i’r aelod perthnasol o staff neu’r archwiliwr penodedig ymdrin ag ef yn gyntaf.
Os na fyddwch yn siwr gyda phwy y dylid cysylltu, neu os na fyddwch yn fodlon ar y modd yr ymdriniwyd â’ch cwyn gan aelod o staff Swyddfa Archwilio Cymru neu’r archwiliwr penodedig, cysylltwch â’r Rheolwr Ymchwilio i Gwynion fel a ganlyn.
Er y gallwch drafod cwynion gyda’n staff, mae’n well gennym eich bod yn eu gwneud yn ysgrifenedig. Gallwch ysgrifennu eich cwynion yn Gymraeg neu’n Saesneg.
Pan fyddwch yn ysgrifennu atom, rhowch y wybodaeth ganlynol i ni:
- eich cyfeiriad a’ch rhif ffôn;
- os oes gennych anghenion arbennig, a byddwn yn gwneud ein gorau i’w diwallu.
Cwynion am y sefydliadau a archwilir gan yr Archwilydd neu ei archwilwyr penodedig
Os oes gennych gwyn ynglyn â pherfformiad neu ymddygiad sefydliad a archwilir gan yr Archwilydd neu ei archwilwyr penodedig, dylech ei chodi gyda’r sefydliad hwnnw, gan ddefnyddio ei weithdrefn gwyno ei hun fel y bo’n briodol. Ni allwn ymdrin â chwynion yn erbyn sefydliadau a archwilir ar ran unigolion neu grwpiau.
Fodd bynnag, os oes gennych bryderon ynglyn â:
- gwerth am arian o ran y modd y mae sefydliad cyhoeddus yn defnyddio ei adnoddau;
- ei reolaeth ariannol;
- cynnal busnes cyhoeddus yn briodol
dylech ysgrifennu at Archwilydd Cyffredinol Cymru.
Os byddwch o’r farn bod sefydliad a archwilir gan yr Archwilydd neu ei archwilwyr penodedig wedi eich trin yn annheg oherwydd rheolaeth wael neu aneffeithlon (‘camweinyddu’), a bod hyn wedi arwain at anghyfiawnder (megis colled, niwed neu ofid), dylech gyflwyno eich cwyn i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus. Ymhlith yr enghreifftiau o ‘gamweinyddu’ o fewn sefydliad mae:
- bod yn araf i weithredu pan nad oes rheswm da dros yr oedi;
- peidio â chydymffurfio â’r gyfraith neu ei reolau ei hun;
- torri ei addewidion;
- rhoi gwybodaeth anghywir;
- peidio â gwneud penderfyniad yn y modd cywir.
Manylion cyswllt:
Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru,
1 Ffordd yr Hen Gae,
Pencoed,
CF35 5LJ
Ffôn: (01656) 641 150
Ffacs: (01656) 641 199
www.ombudsman-wales.org
ask@ombudsman-wales.org.uk