Click here to skip to the main content
Hafan

Cymraeg / English

Hafan  Cysylltiadau allanol  Map o'r Safle  Dewisiadau Mynediad 
Pwy ydym ni? Beth rydym yn ei wneud Cyhoeddiadau Newyddion Y Gyfnewidfa Arfer Da
Hafan >Pwy ydym ni? > Chwythu'r chwiban
Argraffu'r Dudalen
Chwythu'r chwiban
Ydych yn pryderi am gamymddwyn yn eich lle gwaith?

  Os ydych wedi’ch cyflogi gan:

• GIG Cymru;
• awdurdod lleol;
• awdurdod heddlu neu awdurdod tân;
• Cynulliad Cenedlathol Cymru, neu gorff perthynol

gallwn gynnig cymorth i chi

Am gopi o'r daflen, cliciwch yma.

Datgeliadau chwythu’r chwiban

Cyflwynwyd Deddf Datgelu er Lles y Cyhoedd 1998 (y Ddeddf) i ddiogelu cyflogeion sy’n pryderu ynghylch camweddau lle maent yn gweithio ac am ‘chwythu’r chwiban’. Mae’r Ddeddf yn berthnasol i’r rhan fwyaf o gyflogeion ac yn cynnwys y rhai a gyflogir dros dro neu drwy asiantaeth. Gall cyflogai sydd wedi ei fictimeiddio neu sydd wedi dioddef camwahaniaethu mewn unrhyw ffordd am iddo ‘chwythu’r chwiban’ (a elwir yn ‘datgeliad a ddiogelir’) fynd â’i gyflogwr i dribiwnlys cyflogaeth.

Rôl Archwilydd Cyffredinol Cymru      

O dan y Ddeddf, disgrifir Archwilydd Cyffredinol Cymru (yr Archwilydd) fel ‘person rhagnodedig’, sy’n golygu y gall cyflogai godi unrhyw bryderon gydag ef ynghylch cynnal busnes cyhoeddus yn briodol, gwerth am arian, twyll a llygredd mewn perthynas â darparu gwasanaethau cyhoeddus.                   

O fewn llywodraeth leol, gall cyflogeion gyflwyno ‘datgeliadau a ddiogelir’ i archwilwyr a benodir gan yr Archwilydd.

O dan y Ddeddf, nid oes angen i’r Archwilydd Cyffredinol na’i archwilwyr penodedig ymchwilio i bob datgeliad a dderbynnir. Yn wir, dim ond ymchwilio i’r datgeliadau hyn ar sail eu pwerau cyfreithiol y gallant ei wneud, fel y nodir yn Neddf Llywodraeth Leol Cymru 1998, Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 a chyfreithiau eraill. Mae’r Archwilydd yn seilio ei benderfyniad i ymchwilio ai peidio ar p’un a fyddai’n gwneud defnydd effeithiol o adnoddau o ran diogelu lles y cyhoedd.

Codi pryderon 

Mater o arfer da ymhlith cyflogwyr yw gweithdrefnau chwythu’r chwiban mewnol, a dylent egluro sut y gallwch godi eich pryderon. Os oes gan eich cyflogwr weithdrefnau o’r fath, dylech eu dilyn hwy yn gyntaf.        

Os na allwch godi eich pryderon yn eich gweithle, efallai y bydd yn briodol i chi godi eich pryderon gyda’r Archwilydd o ran materion y mae’r Archwilydd neu ei archwilwyr penodedig yn gyfrifol amdanynt.

Os byddwch yn codi eich pryderon gyda ‘pherson rhagnodedig’ yn hytrach na’ch cyflogwr, bydd eich datgeliad yn cael ei ddiogelu ar yr amodau canlynol:

·         eich bod wedi gweithredu’n ddidwyll;

·         eich bod o’r farn bod y wybodaeth, ac unrhyw honiad ynddi, yn wir hyd y gwyddoch;                 

·         bod gennych reswm dros gredu mai cyfrifoldeb y person rhagnodedig yw’r mater dan sylw.

Fodd bynnag, nid oes gan yr Archwilydd na’i archwilwyr penodedig y pwer i benderfynu p’un a ellir diogelu datgeliad, nac i ymwneud â chysylltiadau cyflogaeth, ac ni allant roi cyngor cyfreithiol.

Nid oes gan yr Archwilydd na’i archwilwyr penodedig y pwer i ddisgyblu unrhyw unigolion, nac i ddwyn achos troseddol ar ôl cwblhau unrhyw ymchwiliadau. Dim ond rheolwyr y sefydliad dan sylw, neu unrhyw sefydliad proffesiynol perthnasol, a all gymryd camau disgyblu. Cyfeirir honiadau o ymddygiad troseddol at yr heddlu ac, yn y pen draw, dim ond y llysoedd a all benderfynu arnynt.
 

Cysylltu ag Archwilydd Cyffredinol Cymru

Er mwyn ymdrin â’ch pryderon yn ddi-oed ac yn effeithiol, mae’r Archwilydd wedi rhoi trefniadau ar waith fel y gall unigolion godi eu pryderon yn gyfrinachol gyda staff profiadol sydd wedi’u hyfforddi. Gallwch gysylltu ag Archwilydd Cyffredinol Cymru fel a ganlyn.

 

Ysgrifennwch at:

 

 

Swyddog PIDA

Archwilydd Cyffredinol Cymru

2-4 Park Grove

Caerdydd

CF10 3PA

E-bost:

 

whistleblowing@wao.gov.uk

Ffôn:

 

 

01244 525980

Caiff pob gohebiaeth a anfonir at yr Archwilydd ei drin yn gyfrinachol, i’r graddau y mae’r gyfraith yn caniatáu hynny. Mae’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yn cynnwys eithriadau sy’n diogelu datgeliadau a wneir er lles y cyhoedd.

Os bydd yr Archwilydd yn derbyn eich datgeliad, byddwn yn rhoi rhif cyfeirnod i chi ei ddefnyddio mewn unrhyw ohebiaeth bellach. Lle bynnag y bo’n bosibl, byddwn yn rhoi adborth i chi pan fyddwn yn cwblhau ein hymchwiliadau, er bod yn rhaid i ni weithredu’n unol ag unrhyw reoliadau sy’n cyfyngu ar ddatgelu rhai mathau o wybodaeth.

Os byddwch am gysylltu â’r Archwilydd am unrhyw reswm arall, efallai am eich bod yn pryderu am werth am arian fel trethdalwr yn hytrach nag fel cyflogai, ewch i wefan Swyddfa Archwilio Cymru i gael gwybodaeth am ohebiaeth a chwynion (www.wao.gov.uk), neu ffoniwch 029 2026 0260.

Cyngor defnyddiol

Cofiwch eich bod yn gweithredu fel tyst ac nid achwynydd pan fyddwch yn chwythu’r chwiban. Rhaid bod gennych amheuon rhesymol ond nid tystiolaeth wirioneddol i gefnogi eich pryderon. Os byddwch yn amau camweddau lle rydych yn gweithio, dylech ddilyn rhai canllawiau syml.

Gwnewch y canlynol:

1        Nodwch eich pryderon ar unwaith.         

Nodwch bob manylyn perthnasol, megis yr hyn a ddywedwyd mewn sgyrsiau dros y ffôn neu sgyrsiau wyneb yn wyneb, y dyddiad, yr amser ac enwau pawb dan sylw.

2    Hysbyswch rywun â’r awdurdod a’r profiad perthnasol o’ch amheuon.
Mae gan y rhan fwyaf o gyflogwyr bolisïau a gweithdrefnau ar waith ar gyfer chwythu’r chwiban, a dylai eich Adran Bersonél neu Bennaeth yr Archwiliad Mewnol allu rhoi mwy o fanylion i chi.

3    Dylech ymdrin â’r mater yn ddi-oed, os ydych o’r farn bod eich pryderon wedi’u cyfiawnhau.
Gallai unrhyw oedi olygu bod eich sefydliad neu ddefnyddwyr gwasanaeth yn parhau i ddioddef neu fod y risg o niwed yn cynyddu.

Peidiwch â gwneud y canlynol:

1    Gwneud dim.

2    Bod ofn codi eich pryderon.
Ni ddylai eich cyflogwr gamwahaniaethu yn eich erbyn os codwch eich pryderon. Rhaid i’ch sefydliad drin unrhyw fater a godir gennych mewn modd sensitif a chyfrinachol.

3    Cysylltu ag unrhyw unigolion yn uniongyrchol neu eu cyhuddo’n uniongyrchol.

4    Ceisio ymchwilio i’r mater eich hun.
Mae hyn yn hynod bwysig os ydych yn pryderu am drosedd neu am dorri dyletswydd gyfreithiol. Ceir rheolau arbennig ar gyfer casglu tystiolaeth i’w defnyddio mewn achosion troseddol. Gallai ymgais gan bobl nad ydynt yn gyfarwydd â’r rheolau hyn i gasglu tystiolaeth ddinistrio’r achos.

5    Hysbysu unrhyw un nad oes ganddo’r awdurdod priodol o’ch amheuon

Mwy o gyngor ac arweiniad

Os ydych yn ystyried gwneud datgeliad ac nad ydych yn siwr o’ch hawliau cyfreithiol, dylech ystyried cael cyngor cyfreithiol annibynnol.            

Os hoffech gael cyngor cyfrinachol am ddim ynghylch pa wybodaeth a ddiogelir o dan Ddeddf Datgelu er Lles y Cyhoedd 1998, a’r ffordd orau o godi eich pryder, dylech ffonio Public Concern at Work (elusen annibynnol) ar 020 7404 6609 neu ewch i’w gwefan yn    www.pcaw.co.uk

Os ydych yn pryderu ynghylch twyll neu lygredd o fewn y GIG, dylech ffonio llinell cofnodi twyll Gwasanaeth Gwrth-dwyll y GIG ar 08702 400 100 neu ewch i www.cfsms.nhs.uk am fwy o wybodaeth

Os ydych yn pryderu ynghylch camweddau lle rydych yn gweithio nad ydynt yn ymwneud â’r modd y cynhelir busnes cyhoeddus, gwerth am arian, twyll neu lygredd, gallwch ymweld â www.dti.gov.uk i gael manylion am bobl ragnodedig eraill. Hefyd, gall Public Concern at Work roi cyngor i chi ar y sefydliadau mwyaf priodol i gysylltu â hwy.         

Os mai cyflogwr ydych a’ch bod am gael mwy o wybodaeth am sut y gall Swyddfa Archwilio Cymru eich helpu i hyrwyddo prosesau chwythu’r chwiban cyfrifol, ysgrifennwch at y Swyddog PIDA yn swyddfa Archwilydd Cyffredinol Cymru (gweler y dudalen nesaf am fanylion cyswllt).

 

Fel holl gyhoeddiadau’r Archwilydd, mae’r daflen hon hefyd ar gael yn Saesneg, mewn print mawr ac ar dâp sain. Cysylltwch â’r Tîm Cysylltiadau yn y cyfeiriad isod, a gwnânt drefnu fersiwn arall ar eich cyfer.

Os oes gennych nam ar eich clyw neu ar eich lleferydd a’ch bod yn defnyddio ffôn testun, gallwch ein ffonio’n uniongyrchol ar 029 2026 2646.

Swyddfa Archwilio Cymru
2-4 Park Grove
Caerdydd
CF10 3PA

Ffôn: 029 2026 0260

(Efallai y byddwn yn recordio eich galwadau.)

Ffacs: 029 2026 0026

Gwefan: http://www.wao.gov.uk/

 

 

 

 

Swyddfa Archwilio Cymru
24 Heol y Gadeirlan
Caerdydd
CF11 9LJ

Ffôn: 029 2032 0500
Ffacs: 029 2032 0600

© Swyddfa Archwilio Cymru