|
Roedd cyfrifoldebau newydd ar gyfer arolygiadau ar y cyd o’r 43 awdurdod heddlu yn Lloegr a Chymru wedi ei osod ym Mesur Plismona a Throsedd a gyflwynwyd ym mis Rhagfyr y llynedd. Byddai’r newidiadau’n gweld timau o arolygwyr o’r Arolygiaeth Cwnstabliaeth Ei Mawrhydi a Swyddfa Archwilio Cymru sydd yn cynnal arolygiadau yng Nghymru a’r Comisiwn Archwilio, yn gweithio gyda’r Arolygiaeth Cwnstabliaeth Ei Mawrhydi yn Lloegr.
O ganlyniad i’r ymgynghoriadau bydd fframwaith terfynol, yn gosod sut bydd yr adolygiadau yn cael eu cyflwyno a’u hadrodd. Bydd y fframwaith terfynol yn cael ei gyhoeddi ym mis Mehefin, gydag archwiliad ar leoliad cyntaf yn cychwyn ym mis Medi.
Gellir dod o hyd i wybodaeth bellach ar yr ymgynghoriad drwy ddilyn y linc yma i wefan y Comisiwn Archwilio.
Bydd y cyfnod ymgynghoriad yn rhedeg tan 5yh ar ddydd Mercher 10 Mehefin. Gall sylwadau gael eu cyflwyno i paconsultation@audit-commission.gov.uk.
|