Click here to skip to the main content
Hafan

Cymraeg / English

Hafan  Cysylltiadau allanol  Map o'r Safle  Dewisiadau Mynediad 
Amdanom ni Beth rydym yn ei wneud Cyhoeddiadau Newyddion Y Gyfnewidfa Arfer Da
Hafan >Newyddion > Newyddion
Argraffu'r Dudalen
Newyddion
Ein llwyddiant yng Ngwobr Cliff Nicholson
01/05/2009
Mae Swyddfa Archwilio Cymru yn falch o gyhoeddi ei bod wedi ennill gwobr Cliff Nicholson 2009 a ddyfarnwyd iddi gan y Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth.


Cyflwynir y wobr flynyddol am arloesi a rhagoriaeth ym maes archwilio a phob blwyddyn ceir ystod eang o ymgeiswyr o wahanol sectorau gan gynnwys llywodraeth leol, iechyd, tai ac addysg.

ae Swyddfa Archwilio Cymru yn falch o gyhoeddi ei bod wedi ennill gwobr Cliff Nicholson 2009 a ddyfarnwyd iddi gan y Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth. Cyflwynir y wobr flynyddol am arloesi a rhagoriaeth ym maes archwilio a phob blwyddyn ceir ystod eang o ymgeiswyr o wahanol sectorau gan gynnwys llywodraeth leol, iechyd, tai ac addysg.

Cyflwynwyd y wobr am y gwaith cynhwysfawr a gyflawnwyd gennym ar reoli fflyd yng Nghymru. Roedd hyn yn cynnwys archwiliad o drefniadau rheoli fflyd mewn 50 o gyrff yn y sector cyhoeddus, a arweiniodd at gyflwyno adroddiadau unigol i'r sefydliadau hynny. Hefyd, gwnaethom gyhoeddi adroddiad briffio cenedlaethol yn crynhoi ein canfyddiadau a chynnal cyfres o ddigwyddiadau, gan gynnwys cynhadledd ym mis Tachwedd yn stadiwm SWALEC, Caerdydd.

Rydym hefyd wedi llunio canllaw arfer da ar-lein ar reoli fflyd, ynghyd ag astudiaethau achos, cyfeirlyfr A-Y ac adnoddau a chanllawiau hunanasesu eraill. Gellir gweld y rhain yn adran Y Gyfnewidfa Arfer Da ar ein gwefan drwy ddilyn y ddolen hon.

I gael rhagor o wybodaeth am ein gwaith ar reoli fflyd, cysylltwch â Kevin Thomas drwy ffonio 01244 525981 neu anfon e-bost i kevinp.thomas@wao.gov.uk.

 

 

<< Erthygl flaenorol Erthygl nesaf >>

Swyddfa Archwilio Cymru
24 Heol y Gadeirlan
Caerdydd
CF11 9LJ

Ffôn: 029 2032 0500
Ffacs: 029 2032 0600
Ebost: info@wao.gov.uk

© Archwilydd Cyffredinol Cymru