|
Mae llai o bobl yng Nghymru yn dioddef o ganlyniad i oedi wrth drosglwyddo gofal am fod dulliau mwy cydgysylltiedig yn cael eu defnyddio gan uwch reolwyr i fynd i'r afael â'r broblem. Er mwyn cynnal gwelliant o'r fath mae'n rhaid i bartneriaid lleol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, a Llywodraeth y Cynulliad, fabwysiadu dull gweithredu tymor hwy ac achub ar y cyfleoedd sy'n deillio o'r broses o ailstrwythuro'r GIG.
Dyma gasgliad adroddiad a gyhoeddwyd heddiw gan Archwilydd Cyffredinol Cymru, sy'n dilyn y cynnydd a wnaed ers ei gyfres o adroddiadau yn 2007. Canfu'r rhain fod annibyniaeth pobl hyn sy'n agored i niwed yn cael ei danseilio gan achosion diangen o oedi mewn ysbytai am nad aethpwyd i'r afael â'r broblem o oedi wrth drosglwyddo gofal mewn ffordd gydgysylltiedig ar draws y system iechyd a gofal cymdeithasol gyfan.
Cliciwch yma am y datganiad i’r wasg cyflawn.
|