|
Heddiw, cyflwynodd Swyddfa Archwilio Cymru ei gweledigaeth tair blynedd er mwyn helpu i wella gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Mae'r strategaeth ar gyfer 2009-2012, Effaith Barhaus mewn Adeg o Newid, yn nodi sut mae'r sefydliad yn bwriadu cynorthwyo'r Archwilydd Cyffredinol i hyrwyddo gwelliannau i wasanaethau cyhoeddus drwy waith archwilio ac arolygu mewn amgylchedd o newid sylweddol a chyfyngiadau economaidd.
Mae'r Strategaeth hefyd yn tynnu sylw at gynnydd Swyddfa Archwilio Cymru o ran y pum amcan allweddol a nodwyd yn ei strategaeth gyntaf, a gwmpasodd y cyfnod 2006-2009, gan sefydlu ei hun fel sefydliad a gaiff ei werthfawrogi ac yr ymddiriedir ynddo ym maes craffu, adolygu a gwella allanol.
Cliciwch yma am y datganiad i’r wasg cyflawn.
|