|
Mae gwasanaethau cynllunio tri Pharc Cenedlaethol Cymru yn perfformio'n dda yn yr ystyr bod ganddynt bolisïau eglur ar gyfer datblygu a defnyddio tir. Mae Awdurdodau Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro a Pharc Cenedlaethol Eryri hefyd yn gwneud defnydd da o adnoddau staff cyfyngedig i wella treftadaeth adeiledig eu hardaloedd - sy'n cynnwys archeoleg leol, adeiladau rhestredig ac ardaloedd cadwraeth.
Ond, canfu Archwilydd Cyffredinol Cymru mai bach iawn o gynnydd mae'r tri Pharc wedi'i wneud o ran gwella cyflymder y gwaith o brosesu ceisiadau cynllunio - ac nid yw eu perfformiad yn y maes hwn yn cymharu'n dda ag awdurdodau cynllunio eraill Cymru.
Cliciwch yma am y datganiad i’r wasg cyflawn
|