Click here to skip to the main content
Hafan

Cymraeg / English

Hafan  Cysylltiadau allanol  Map o'r Safle  Dewisiadau Mynediad 
Amdanom ni Beth rydym yn ei wneud Cyhoeddiadau Newyddion Y Gyfnewidfa Arfer Da
Hafan >Newyddion > Newyddion
Argraffu'r Dudalen
Newyddion
Dysgu o adolygiadau ar y cyd yng Nghymru: ffactorau llwyddiant allweddol wedi'u hamlygu
16/06/2009
 PDF icon

Adroddiad
Adolygu Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghymru 1998-2008 Dysgu gwersi o'r Siwrnai

  Cliciwch yma i weld y datganiad i’r wasg
 

Cysylltiadau
Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru

Cydadolygiad yng Nghymru

Mae arweinyddiaeth, gweledigaeth a chamau gweithredu wedi'u cyfuno â'r hyn a ddysgir gan ddefnyddwyr gwasanaeth a staff yn rhai o'r ffactorau pwysig sy'n ysgogi gwelliant mewn gwasanaethau cymdeithasol yn ôl adroddiad a gyhoeddwyd heddiw gan Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru.

Comisiynwyd yr adroddiad, a ysgrifennwyd gan Sue Mead, cyn Gyfarwyddwraig Adolygiadau ar y Cyd, gan AGGCC a Swyddfa Archwilio Cymru i ddwyn ynghyd yr hyn a ddysgwyd o adolygiadau ar y cyd yng Nghymru dros y deng mlynedd diwethaf, nodi'r ffactorau allweddol sy'n ysgogi gwelliannau mewn gwasanaethau cymdeithasol ac amlygu meysydd sy'n gwella'n gyson.  Mae'r adroddiad hefyd yn ystyried pa ddatblygiadau sefydliadol a gwasanaeth sydd eu hangen gan awdurdodau lleol i gynnal y cynnydd a wnaed a gwella ymhellach.

Mae'r adroddiad yn darparu dadansoddiad trylwyr a chynhwysfawr o'r data a'r wybodaeth sydd ar gael, gan ddwyn ynghyd y dystiolaeth o'r 10 mlynedd diwethaf o adolygiadau ar y cyd, ond gan ganolbwyntio'n benodol ar yr ail raglen o adolygiadau a ddechreuodd yn 2004.

Cliciwch yma am y datganiad i’r wasg cyflawn.

<< Erthygl flaenorol Erthygl nesaf >>

Swyddfa Archwilio Cymru
24 Heol y Gadeirlan
Caerdydd
CF11 9LJ

Ffôn: 029 2032 0500
Ffacs: 029 2032 0600
Ebost: info@wao.gov.uk

© Archwilydd Cyffredinol Cymru