Click here to skip to the main content
Hafan

Cymraeg / English

Hafan  Cysylltiadau allanol  Map o'r Safle  Dewisiadau Mynediad 
Amdanom ni Beth rydym yn ei wneud Cyhoeddiadau Newyddion Y Gyfnewidfa Arfer Da
Hafan >Newyddion > Newyddion
Argraffu'r Dudalen
Newyddion
Gofal mamolaeth yn briodol ar y cyfan ond gwahaniaethau annerbyniol ledled Cymru
19/06/2009
Yr Archwilydd Cyffredinol yn galw am strategaeth genedlaethol i fynd i'r afael â phroblemau penodol mewn gwasanaethau mamolaeth
 PDF icon Adroddiad - cliciwch yma i lawrlwytho’r adroddiad - Gwasanaethau Mamolaeth
  Cliciwch yma i weld y datganiad i’r wasg
 

Cysylltiadau
Llywodraeth Cynulliad Cymru, Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer Plant, Pobl Ifanc a'r Gwasanaethau Mamolaeth yng Nghymru, Medi 2005.

Safer Childbirth: Minimum Standards for the Organisation and Delivery of Care in Labour Royal College of Anaesthetists, Royal College of Midwives, Royal College of
Obstetricians and Gynaecologists, Royal College of Paediatrics and Child Health, Hydref 2007

Dywed adroddiad a gyhoeddwyd heddiw gan yr Archwilydd Cyffredinol fod y rhan fwyaf o ferched yn fodlon ar wasanaethau mamolaeth yng Nghymru a bod gwasanaethau ar y cyfan yn cyrraedd safon briodol. Ond mae'r adroddiad hefyd yn tynnu sylw at rai problemau penodol gan gynnwys y modd y rheolir y cyfnod esgor mewn rhai ymddiriedolaethau ac anfodlonrwydd ar ansawdd y cymorth ar gyfer bwydo babanod.

Mae'r adroddiad a gyhoeddwyd heddiw yn cynnwys arolwg o famau newydd. Er bod llawer o'r merched a holwyd yn fodlon ar eu profiad, roedd lleiafrif sylweddol o'r farn nad oeddent bob amser yn cael eu trin ag urddas a pharch na charedigrwydd a dealltwriaeth.

Yn gyffredinol mae gofal cynenedigol yn dilyn canllawiau arfer da ond nid yw rhai merched yn cael digon o archwiliadau ac ar y cyfan mae lefelau presenoldeb mewn dosbarthiadau cynenedigol yn isel. Mae'r adroddiad hefyd yn dangos bod merched mewn rhai ymddiriedolaethau yn tueddu i gael gormod o sganiau ac nad yw ymddiriedolaethau yn cynnig y profion sgrinio diweddaraf am syndrom Down eto.

Cliciwch yma am y datganiad i’r wasg cyflawn

<< Erthygl flaenorol

Swyddfa Archwilio Cymru
24 Heol y Gadeirlan
Caerdydd
CF11 9LJ

Ffôn: 029 2032 0500
Ffacs: 029 2032 0600
Ebost: info@wao.gov.uk

© Archwilydd Cyffredinol Cymru