Click here to skip to the main content
Hafan

Cymraeg / English

Hafan  Cysylltiadau allanol  Map o'r Safle  Dewisiadau Mynediad 
Amdanom ni Beth rydym yn ei wneud Cyhoeddiadau Newyddion Y Gyfnewidfa Arfer Da
Hafan >Newyddion > Newyddion
Argraffu'r Dudalen
Newyddion
Rheolaeth ariannu ac ansawdd y dysgu o ran dysgu seiliedig ar waith wedi gwella'n sylweddol
22/10/2009
Ond ni chaiff y gwersi a ddysgwyd o broblemau cynharach eu cymhwyso'n systematig ar draws Llywodraeth y Cynulliad, dywed yr Archwilydd Cyffredinol
 PDF icon

Adroddiad - cliciwch yma i lawrlwytho’r adroddiad - Adroddiad Dilynol ar Ddysgu Seiliedig ar Waith

  Cliciwch yma i weld y datganiad i’r wasg

Mae rheolaethau ariannu ar gyfer darparwyr Dysgu Seiliedig ar Waith ac ansawdd y ddarpariaeth ddysgu wedi gwella o ganlyniad i ddull rheoli archwilio a pherfformiad cryfach Llywodraeth y Cynulliad, dywed adroddiad a gyhoeddwyd heddiw gan yr Archwilydd Cyffredinol.

Dengys adroddiad dilynol heddiw fod Llywodraeth y Cynulliad wedi gwneud cynnydd da i fynd i'r afael â'r gwendidau cynharach mewn rheolaethau ariannol o ran Dysgu Seiliedig ar Waith. Yn 2004-05 roedd gan draean o'r holl ddarparwyr Dysgu Seiliedig ar Waith wendidau sylweddol yn eu systemau rheolaeth ariannol. Ers hynny, mae Llywodraeth y Cynulliad wedi atgyfnerthu ei ddull o archwilio darparwyr ac yn 2008-09 dim ond un y cant o ddarparwyr oedd â gwendidau sylweddol yn eu systemau.

Dengys adroddiad heddiw hefyd y cafwyd gwelliannau mawr yn ansawdd y ddarpariaeth Dysgu Seiliedig ar Waith. Mae hyn yn rhannol am i Lywodraeth y Cynulliad osod safonau cadarnach pan gyhoeddodd gontractau newydd yn 2007, ac atal arian i rai o'r darparwyr gwannaf. Mae'r ansawdd gwell hefyd yn rhannol o ganlyniad i drefniadau rheoli perfformiad llymach Llywodraeth y Cynulliad sy'n cosbi darparwyr nad ydynt yn bodloni'r meini prawf ansawdd.

Cliciwch yma am y datganiad i’r wasg cyflawn

<< Erthygl flaenorol

Swyddfa Archwilio Cymru
24 Heol y Gadeirlan
Caerdydd
CF11 9LJ

Ffôn: 029 2032 0500
Ffacs: 029 2032 0600
Ebost: info@wao.gov.uk

© Archwilydd Cyffredinol Cymru