The Childrens Trust Close
Home > Rheoli Absenoldeb oherwydd Salwch
Rheoli Absenoldeb oherwydd Salwch
Rheoli Absenoldeb oherwydd Salwch
...ac annog Presenoldeb

Croeso i'n canllaw

Mae'r canllaw hwn yn nodi system gynhwysfawr a chynaliadwy ar gyfer rheoli absenoldeb oherwydd salwch a hyrwyddo presenoldeb ym maes gwasanaethau cyhoeddus Cymru.

Dull Proffilio
a Rhestr Wirio
Bydd y tudalennau yma yn eich helpu i ddeall y broses o reoli absenoldeb oherwydd salwch yn eich sefydliad
Cyfeiriadur A i Y  ac Astudiaethau Achos Cymru Defnyddiwch y tudalennau hyn i nodi'r arfer da a fydd yn eich helpu i wella

Mae rheoli absenoldeboherwydd salwch yn bwnc pwysig i bob sefydliad gwasanaeth cyhoeddus yng Nghmru, o gofio bod pob un ohonynt yn dibynnu ar gyfraniad staff i ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel yn gyson. Mae sawl sefydliada eisoes yn cymryd rhai camau gweithredu i hyrwyddo gwell presenoldeb. Yn y canllawiau hyn ac yn ein gwaith eang rydym yn ceisio nodi, gwerthuso a hwyluso trosglwyddo arfer da o fewn sectorau a rhyngddynt.

Bydd eich sefydliad yn debygol o elwa o fabwysiadu unrhyw un o’r camau a danlinellir yn y canllaw, ond dim ond os mabwysiedir y system gyfan y ceir y buddiannau mwyaf.

Yr un 'cyfarwyddyd' syml yw bod hwn yn fater llywodraethu sylweddol y dylid ymdrin ag ef ar y lefelau uchaf.


Cyn ystyried unrhyw gamau gweithredu, rydy yn argymell y dylid defnyddio'r rhestrau gwirio a'r dull proffilio sefydliad i nodi eich blaenoriaethau.

Er ei bod yn anochel, wrth gwrs, fod pobl yn dioddef o salwch, mae hefyd yn amlwg bod:

  1. dros hanner o'r holl absenoldebau yn dod o dan y cyfnod 'hunan-ardystio' lle mae'r unigolyn yn defnyddio'i ddisgresiwn ei hun i benderfynu p'un a aiff i'r gwaith ai peidio, 
  2. ceir camau y gellir eu cymryd i gefnogi staff a fu'n sâl yn hirdymor i ddychwelyd i'r gwaith yn gynnar sy'n gallu cael effaith sylweddol.

Gan fod tua 28% o'r bobl sy'n gweithio yng Nghymru wedi'u cyflogi mewn gwasanaethau cyhoeddus, gallai effaith gadarnhaol ar hybu iechyd o fewn y gweithluoedd hynny hefyd gael effaith gadarnhaol ar les y genedl.

Cwmpesir budd hirdymor hybu iechyd ar draws y gweithlu hwn yn dda gan ‘Safon Iechyd Gorfforaethol’ Llywodraeth Cynulliad Cymru.

A wyddoch chi?

Mae'r budd yn sgîl lleihau nifer cyfartalog y diwrnodau a gollir bob blwyddyn yn y sector cyhoeddus Cymraeg o un yn unig, yn cyfateb i £27 miliwn ychwanegol i'r gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Gall hyn gael ei gyflawni drwy gael diwrnod o waith gan staff a delir eisoes yn unig.

Bydd lleihau y nifer cyfartalog o ddiwrnodau a gollir y flwyddyn yn gyffredinol o un yn unig yn creu cyfraniad ychwanegol o:

90,000 o ddiwrnodau person yn GIG Cymru,
50,000 o ddiwrnodau person yn llywodraeth leol Cymru,
6,000 o ddiwrnodau person yn Llywodraeth Cynulliad Cymru,

Bydd y lleihad cyffredinol yn gyfanswm o 1,000 o staff llawn amser ychwanegol.

Gallai'r gost yn sgîl absenoldeb i gynnal gwasanaethau hanfodol ymddangos hefyd fel goramser, locwm, ffioedd cyflenwi neu asiantaeth. Nid yn unig mae hyn yn dyblygu'r arian a delir eisoes fel tâl salwch, ac a all fod yn gostus iawn fel bod un diwrnod o absenoldeb yn costio hyd at 240% o gost cyflogaeth sylfaenol pan fo'r gyllideb wedi'i pharatoi ar gyfer 100%.


Os hoffech ragor o wybodaeth am y prosiect hwn neu am ein cyfnewidfa arfer da, cysylltwch â naill ai Anthony Snow (Prif Swyddog Gweithredu (anthony.snow@wao.gov.uk) neu Chris Bolton, Rheolwr Prosiect Arfer Da (chris.bolton@wao.gov.uk).

Mae'r canllaw yma ar reoli absenoldeb oherwydd salwch cynaliadwy wedi ei ddatblygu fel rhan o'n gwaith arfer da ehangach a'n gwaith i gefnogi 'Creu'r Cysylltiadau'.  Mae wedi ei ddarparu fel cyfarwyddyd a deunydd cyfeirio ar gyfer holl sefydliadau'r sector cyhoeddus yng Nghymru. Mae'r cyngor, y deunydd a'r astudiaethau achos o fewn y gyfnewidfa wedi dod o amryw o ffynonellau ac wedi eu cyflenwi i Swyddfa Archwilio Cymru gyda chaniatâd ffurfiol y partïon awdurdodedig. Cynorthwyo yn unig yw bwriad y canllaw ac nid yw Swyddfa Archwilio Cymru yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb i drydydd parti mewn perthynas â hawlio, atebolrwydd, colled neu niwed o ganlyniad i ddibynnu’n ormodol ar y wybodaeth a gyflwynir yn y canllaw.

Dilynwch y cyswllt hwn i'r Golwg Gyffredinol: Prosesau Rheoli Absenoldeb oherwydd Salwch.