|
Oherwydd ein safle unigryw yng Nghymru, sy'n cynnwys cydberthynas â phob corff cyhoeddus, gallwn arsylwi arfer da mewn un sefydliad a sefydliadau eraill lle gall ei weithredu fod yn fanteisiol.
Manylwyd ar ein hymagwedd tuag at gyflwyno'r agenda hon yn y daflen “Don’t Re-invent the Wheel” ddiwedd 2006 (Gallwch weld y daflen yma, ffeil pdf).
Rydym yn ymrwymedig i:
- Nodi un neu ddau faes o weithgarwch y sector cyhoeddus yng Nghymru bob blwyddyn a fyddai'n elwa fwyaf ar gyfraniad arfer da arwyddocaol
- Cynnal gwaith ymchwil byd eang o safon uchel ar arfer da yn y maes hwn a'i gyflwyno mewn fformat hawdd ei ddefnyddio
- Hyrwyddo'r broses o drosglwyddo a gweithredu arfer da gyda chyrff y sector cyhoeddus yng Nghymru.
Mae'r ymagwedd hon yn gadael y penderfyniadau a'r broses o weithredu arfer da i'r sefydliadau sy'n gyfrifol am ddarparu gwasanaethau - sydd yn union fel y dylai fod.
Mae cydweithio'n hanfodol i lwyddiant ein hymagwedd ac rydym wedi sefydlu cysylltiadau cryf gyda Rhagoriaeth Cymru a Rheoli Sector Cyhoeddus Cymru. Caiff pob maes rydym yn canolbwyntio arnynt eu dewis i sicrhau ein bod yn cyflenwi ac yn cefnogi ein gilydd lle bynnag y bo'n bosibl.
Drwy'r Gyfnewidfa Arfer Da rydym wedi creu llwybr lle y gall unrhyw un gyflwyno enghreifftiau o arfer da er mwyn eu hadolygu a'u gwerthuso i asesu pa mor rhwydd y gellir eu trosglwyddo ar draws y sector cyhoeddus. Po fwyaf y sefydliadau sy'n cysylltu â'i gilydd i rannu eu gwybodaeth a'u profiad, y gorau fydd y canlyniadau i ddefnyddwyr gwasanaethau cyhoeddus.
Y Gyfnewidfa Arfer Da
Yn rhannu'r profiad... a'r canlyniadau
|