Gall bwlio godi yn y lle gwaith, a gall arwain at absenoldeb. Weithiau gall ffynhonnell y bwlio fod yn rheolwr llinell neu oruwchwyliwr a fydd hefyd yn ofnnol i gynnal y trafodaethau dychwelyd i'r gwaith. Cynghorir uwch reolwyr sy'n gyfrifol am dimau gwaith lle y ceir cyfnodau o absenoldeb yn fynych lle nad yw'r rhesymau'n glir, i gynnal eu hasesiad eu hunain. Gallant siarad yn uniongyrchol, ac yn breifat ag aelodau o'r tîm dan sylw, neu gynnal eu hymweliadau cartref â chyflogeion absennol, a rhoi sicrwydd o gyfrinachedd llwyr, dylid holi'n benodol ynghylch cydberthnasau gwaith.
Os bydd gan dimau gwaith tebyg o dan oruchwyliwr gwahanol lefelau presenoldeb gwell ac na fydd unrhyw resymau amlwg eraill dros y gwahaniaethau, dylid craffu ar arddull yr arweinydd tîm dan sylw. Gall camau a gymerwyd yn hollol ddidwyl, a ystyrir yn rheolaeth 'gadarn' gan y rheolwr, gael ei ystyried yn 'fwlio' gan derbynnydd. Mae'r defnydd diwyd a phroffesiynol o brotocolau penodedig, e.e. ar gyfer cynnal trafodaethau dychwelyd i'r gwaith, yn helpu i leihau'r risg hon drwy sicrhau yr ymdrinnir â phrosesau rheoli presenoldeb yn briodol ac yn deg, gan leihau'r cyfle felly am wrthhoniadau yn erbyn y rheolwr llinell. Cyfeiriwch hefyd at 'Trais'
|