Fe'i defnyddir fel arfer mewn perthynas ag absenoldebau hirdymor. Mae diffiniad sefydliadau gwahanol o hyn yn amrywio o fwy na phythefnos i fwy na 12 mis. Mae'r cyfarfod yn cynnwys
Cynrychiolydd Adnoddau Dynol
Swyddog proffesiynol iechyd Galwedigaethol
Gallai aelod o staff iechyd a diogelwch fod yn gysylltiedig os yw'r achos yn cyfiawnhau hynny.
Mae'r amser a gollir gan gyfran gymharol fach o staff cymaint fel y gall cymorth effeithiol a rheolaeth dda o'r achosion hynny gael effaith sylweddol ar berfformiad cyffredinol y sefydliad.

Diben cynhadledd achos yw adolygu ffeithiau hysbys yr achos i ddwyn y dyddiad dychwelyd i'r gwaith ymlaen, drwy'r ffyrdd canlynol:
Gallai proses raddol o ddychwelyd i'r gwaith yn y byrdymor, a phroses lai dwys fod o gymorth. (gweler Adsefydlu)
Yn y pen draw, os bydd yr absenoldeb yn parhau, ac y bydd pob opsiwn adeiladol arall wedi methu, gallai'r drafodaeth droi at derfynu'r gyflogaeth o bosibl. Gall hyn fod drwy ymddeoliad ar sail salwch os bydd y cyflwr mor ddifrifol fel na fydd yr unigolyn yn iach i weithio'n barhaus. (gweler Salwch)
| Heddlu Dyfed-Powys: 'Dim ond neges e-bost gyflym i ddiolch i bawb ohonoch yn yr adran iechyd galwedigaethol am y gwasanaeth a'r help a gefais dros y chwe mis diwethaf. Mae arnaf ofn meddwl beth fyddai wedi digwydd pe na fyddai gwasanaeth o'r fath ar gael nid yn unig i mi ond hefyd i aelodau eraill o staff sy'n wynebu sefyllfaoedd tebyg i mi. Cydnabu'r adran Iechyd Galwedigaethol yn gyflym nad oedd popeth yn iawn â'r gwasanaeth yr oeddwn yn ei gael eisoes a gwnaethant ymyrryd ar gam cynnar i ymdrin â'r problemau a oedd yn gysylltiedig â'm hanaf. Pe na fyddech wedi ymyrryd mor brydlon ag y gwnaethoch teimlaf y gallai'r driniaeth yr oeddwn yn ei chael am fy anaf fod wedi arwain at ganlyniadau difrifol i'm gyrfa.' |
Dylid cadw nodiadau o ganlyniadau pob cynhadledd achos o'r fath, ond cofiwch y bydd y rhain yn cael eu datgelu i'r unigolyn (Gwrthrych y data’) o dan y Ddeddf Diogelu Data, neu yn achos unrhyw her gyfreithiol.
O ystyried y bydd unrhyw achos sy'n mynd drwy broses ffurfiol yn y pen draw drwy Weithdrefn Gallu neu Ddisgyblu wedi'i drafod yn flaenorol mewn cynadleddau achos, mae'r nodiadau achos sy'n cwmpasu'r trafodaethau cynharach yn debygol o fod yn rhan allweddol o'r gwaith papur y gellid craffu arno os bydd achos cyfreithiol.
|
Rolls Royce plc: Fel rhan o raglen rheoli ehangach cyflwynodd Rolls Royce system a oedd yn sicrhau bod unrhyw un a oedd yn absennol am bedair wythnos neu fwy yn gallu manteisio ar gynllun gweithredu, yn cynnwys gwasanaethau ffisiotherapi (ar gyfer anafiadau yn ymwneud â'r gwaith ac anafiadau nad ydynt yn ymwneud â'r gwaith).
|
Swyddfa Archwilio Genedlaethol: Rheoli Absenoldeb oherwydd Salwch yn y Sector Cyhoeddus.