Mae'r modd y caiff gwybodaeth ei gyflwyno yn allweddol i effeithlonrwydd cyfathrebu. Prif fantais hybu presenoldeb wrth gwrs, yw gwell gwasanaethau gan fod mwy o bobl yn y gwaith.
Yn ogystal, mae lefelau presenoldeb gwell yn golygu nad oes gofyn i gydweithwyr gyflenwi ar gyfer gweithwyr absennol ar draul eu cyfrifoldebau eu hunain.
Wrth gyfrathebu am bresenoldeb, y peth gorau yw trosi canrannau 'safonol' neu ffigurau 'dyddiau a gollwyd' yn friffiau ystyrlon y gall staff eu deall.
Yng Ngwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, yn Ionawr 2006, collwyd 79 o sifftiau o ganlyniad i absenoldebau, ond ym mis Ionawr 2007, 43 oedd y ffigur.
Mae Heddlu Gwent wedi cynnal adolygiad cynhwysfawr o'r holl bolisïau ac arferion mewn perthynas â phresenoldeb, a'r canlyniad oedd bod nifer y dyddiau a gollwyd fesul swyddog yn 2005/2006 yn well nag yn 2003/2004 yn ôl 5.22 o ddyddiau…ar sail 1,510 o swyddogion, mae hyn yn cyfateb i 30 o swyddogion heddlu ychwanegol yn gweithio yng Ngwent drwy gydol y flwyddyn.