‘Wales is a small country with close-knit communities’ Adolygiad Beecham ‘Benefit can be gained from public service organisations working together on common problems.’ Creu'r Cysylltiadau
Mae agweddau amrywiol ar absenoldeb oherwydd salwch y gellid eu harchwilio er mwyn gweld a yw'n bosibl i sefydliadau'r gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru gydweithio yn y dyfodol:
- Lledaenu profiad: beth sy'n gweithio orau?
- Gosod y safonau: mae 28 y cant o'r bobl sy'n gweithio yng Nghymru yn gweithio mewn gwasanaethau cyhoeddus. Os gallant oll ymrwymo i arfer gorau, bydd hyn yn helpu i lunio diwylliant y wlad.
- Gwasanaethau a rennir:
i) Ceir prinder staff iechyd galwedigaethol Proffesiynol ar gael, ac nid yw eu sgiliau yn ymwneud â sefydliadau penodol. Gallai fod gan rai awdurdodau wasanaethau mewnol penodol sydd wedi'u rheoli'n dda a allai gyflenwi ar gyfer eu cymdogion. ii) Gall y broses o gasglu a rheoli data ddefnyddio cryn dipyn o adnoddau, ac eto mae sefydliadau eraill eisoes wedi datblygu a gosod systemau effeithiol.
Mae lefel Platinwm y Safon Iechyd Gorfforaethol yn gofyn am gyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol y gellid ei ddangos drwy fentrau sy'n cael effaith ar iechyd y boblogaeth ehangach. Gallai cydweithio mewn perthynas ag arfer da ar reoli absenoldeb gyfrannu at hyn. |