Dylid cynnwys cofnod presenoldeb yr unigolyn ymhlith yr ystyriaethau o fewn unrhyw arfarniad neu adolygiad perfformiad, gyda data clir, ffeithiol am yr unigolyn mewn cymhariaeth ag eraill.
Mae aelodau o staff nad ydynt yn colli unrhyw amser yn nodi eu bod yn cyfrannu 100 y cant at eu swydd eu hunain a'u bod yn ysgwyddo baich ychwanegol eu cydweithwyr absennol yn y pen draw hefyd. Un o'r cwynion mwyaf cyffredin yw eu bod yn teimlo nad ydynt yn cael digon o sylw ac nad ydynt yn cael eu gwerthfawrogi'n ddigonol, sy'n golygu eu bod yn fwy tebygol o aros gartref pan fyddant yn teimlo ychydig yn sâl, yn hytrach na mynd i'r gwaith - gweler cymhelliant.
Dylai adolygiad perfformiad pob arweinydd tîm, rheolwr llinell, uwch reolwyr a chyfarwyddwr, gynnwys proses o fonitro cyfraddau presenoldeb cymharol, defnyddio trafodaethau dychwelyd i'r gwaith, nifer yr absenoldebau hirdymor, nifer yr adolygiadau a gynhaliwyd, y rhybuddion a roddwyd a'r achosion o ddiswyddo.
Dylid gosod targedau "S.M.A.R.T." ar gyfer y flwyddyn i ddod.
Mae'r Swyddfa Archwilio Genedlaethol yn nodi'r ystadegau canlynol ar draws y Gwasanaeth Prawf yn Lloegr mewn blwyddyn nodweddiadol:
roedd angen adolygu 1322 o gofnodion unigol
cynhaliwyd 918 o adolygiadau
rhoddwyd 96 o rybuddion ysgrifenedig
diswyddwyd 25 aelod o staff
Mae'r adroddiad hwn hefyd yn dweud, yn wahanol i'r Gwasanaeth Carchardai, bod pwyntiau 'trothwy' yn y Gwasanaeth Prawf yn sbarduno adolygiad, lle ystyrir amgylchiadau'r achos unigol yn hytrach na sbarduno rhybudd awtomatig.