Mae unrhyw un sydd i ffwrdd o waith dros dair wythnos yn wynebu'r risg o golli cysylltiad â'r datblygiadau yn ei waith. Wrth i wythnosau droi'n fisoedd, mae'r risg hon yn cynyddu, a gall y syniad o ddychwelyd i'r gwaith, i'r hyn sydd wedi dod yn fyd anghyfarwydd, fod yn brofiad brawychus a gall fod yn rhwystr i ddychwelyd.
Bydd rhaglen gefnogol o gyswllt ac ymweliadau cartref fel arfer yn annog rhywun i ddychwelyd yn gynt, a gall gwaith adsefydlu ei helpu i ddychwelyd dipyn yn gynt. Gall hyn fod yn arbennig o bwysig wrth atal staff rhag teimlo wedi'u hynysu ac yn isel eu hysbryd, rhywbeth a all ymestyn absenoldebau yn sylweddol. Mae rôl cydweithwyr a goruchwylwyr yn y maes hwn yn hynod o bwysig.
Cymdeithas Prif Swyddogion yr Heddlu
Mae llawer o sefydliadau gwasanaeth cyhoeddus yn gweithredu rheol lle na all neb a fu'n absennol am gyfnod penodedig, er enghraifft chwe wythnos, ddychwelyd i'r gwaith hyd nes ei fod wedi cael ei awdurdodi gan yr adran iechyd galwedigaethol.
Gall hyn arwain at sefyllfa ryfedd lle y bydd meddyg teulu'r unigolyn wedi awdurdodi ei fod yn holliach i ddychwelyd i'r gwaith, ond bydd y rheol fewnol wedyn yn arwain at oedi, er enghraifft o ganlyniad i amseroedd aros am apwyntiad â'r adran iechyd galwedigaethol.
Mae oedi o'r fath yn annhebygol o gael ei gyfiawnhau oni bai fod sensitifrwydd iechyd arbennig iawn i'r gwaith.
Mae'n amheus a yw rheol absoliwt a gymhwysir at bob absenoldeb hirdymor yn fynnir nad yw'r unigolyn yn dychwelyd hyd nes ei fod wedi cael ei weld gan yr adran iechyd galwedigaethol, yn gallu cael ei chyfiawnhau. Mae'n arfer da i'r adran echyd galwedigaethol gael mwy o gysylltiad cyn penderfynu ar ddyddiad dychwelyd, ac felly dylai'r adran Iechyd Galwedigaethol gymryd rhan adeiladol yn y broses cyn i'r meddyg gadarnhau bod yr unigolyn yn holliach i ddychwelyd, ac nid ar ôl hynny.
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn gweithredu cynllun adsefydlu wedi'i reoli o'r canol, sy'n paru'r rhai sy'n dychwelyd â dyletswyddau penodol dan oruchwyliaeth sydd wedi'u lleoli i ffwrdd o'u 'canolfan'.
Bydd opsiynau llai dwys yn dibynnu ar natur y gwaith dan sylw, ond gallai gynnwys: ymweliadau achlysurol â'r gweithlu/gwaith rhan amser/dyletswyddau diwygiedig/patrymau sifft diwygiedig. Dylid trafod y cwmpas yn ystod cynadleddau achos a dylid ei ddatblygu gyda chyfraniad meddygol gan yr adran iechyd galwedigaethol a thrwy'r adran honno, gan y meddyg teulu.
Dim ond fel syniad adeiladol i helpu'r cyflogai i ddychwelyd i'r gwaith y dylid defnyddio cynllun o'r fath.
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi hysbysu pob practis meddyg teulu yn eu rhanbarth o'u polisi newydd ar Adsefydlu.
Gallai effaith y broses o weithredu cynllun llai dwys ar dâl fod yn niwtral neu gallai fod o fudd i'r unigolyn, ond ni fydd y sefydliad yn gallu hawlio unrhyw fath o ad-daliad tâl salwch statudol am unigolyn sy'n gweithio, hyd yn oed os yw hynny yn llai dwys.
Os digwydd y broses o ddychwelyd yn raddol pan fydd yr unigolyn yn parhau i gael 'tâl llawn', mae'n anhebygol y gellir gwneud unrhyw addasiad i ystyried gwaith rhan amser. Wedi'r cyfan, mae'r sefydliad eisoes yn talu 100 y cant am ddim cyfraniad o gwbl, felly mae unrhyw gyfraniad er budd y sefydliad.
Os yw'r cyflogai yn cael tâl llai am ei fod wedi bod yn absennol cyhyd, gallai fod yn briodol i'r cyfnod llai dwys gael ei dalu ar raddfa pro-rata neu ar yr un lefel â'r hawl tâl salwch, pa un bynnag sydd fwyaf.
Os yw'r unigolyn wedi cyrraedd y cyflwr dim tâl, yna mae'n amlwg bod yn rhaid iddo gael ei dalu am y gwaith a wna.
Gan fod amgylchiadau, wedyn, lle efallai nad yw'r unigolyn yn well ei fyd, yn ariannol, o gyfrannu at gynllun llai dwys o'r fath, efallai y byddai'n ddoeth cynnwys y rhwymedigaeth i ymwneud â dulliau o'r fath yn y contract cyflogaeth yn amodol ar gadarnhad meddygol bod y dulliau penodol yn ymarferol.
Astudiaeth Achos - Dychwelyd i'r gwaith yn raddol: Coleg Abertawe Mae Coleg Abertawe wedi cyflwyno rhaglen dychwelyd i'r gwaith yn raddol. Mae'r rhaglen ar gyfer naill ai absenoldebau hirdymor neu ar gyfer achosion o absenoldeb sydd wedi cael effaith fawr ar y cyflogai, fel straen ac iselder. Yn ogystal â helpu i leihau nifer yr absenoldebau hirdymor oherwydd salwch, mae'r rhaglen hefyd wedi helpu i wella canfyddiad cyflogeion am y swyddogaeth adnoddau dynol. Nododd y Coleg fod cynlluniau o'r fath wedi helpu staff i werthfawrogi y gellir rheoli absenoldeb oherwydd salwch yn ofalus fesul achos. Swyddfa Archwilio Cymru: Rheoli absenoldebau salwch mewn sefydliadau addysg bellach yng Nghymru, Mai 2005
Mae'r rhaglen yn cynnwys cyfnod dychwelyd i'r gwaith yn raddol am hyd at bedair wythnos ac yn ystod y cyfnod hwn gall y cyflogai weithio llai o oriau ar dâl llawn a bydd yn cael adolygiadau rheolaidd gan Swyddog Meddygol y Coleg. Ar ddiwedd y cyfnod, caiff yr achos ei adolygu gan staff adnoddau dynol. Yna bydd gan y cyflogai dri dewis: