Diben yr adolygiad yw ystyried cofnod absenoldeb yr unigolyn ac i sicrhau eu bod yn deall eu bod wedi cyrraedd y pwynt sbarduno hwn, bod eu cofnod yn achosi pryder. Dylent ystyried unrhyw faterion sy'n ymwneud â'r gwaith sy'n achosi'r absenoldebau ac ystyried y camau nesaf.
Dylid cynnal adolygiadau o'r fath ym mhob achos lle y cyrhaeddwyd y sbardun, hyd yn oed os bydd 'pawb yn gwybod' bod yr achos yn gwbl ddilys. Nid amau absenoldeb yn y gorffennol yw'r mater, ond annog presenoldeb yn y dyfodol. Hyd yn oed yn yr achosion hyn sy'n ennyn cydymdeimlad, ni wyr neb beth yw'r dyfodol, a bydd methiant i gynnal adolygiad pan gaiff ei sbarduno yn golygu nad oes sail dros unrhyw gamau gweithredu yn y dyfodol. Gallai'r achos hwn hefyd gael ei nodi wrth amddiffyn rhywun arall sy'n hawlio 'erledigaeth' yn dilyn hynny.
Bydd canlyniad yr adolygiad yn amrywio yn ôl barn y Rheolwr Llinell dan sylw wrth ystyried y ffeithiau sy'n gysylltiedig â'r achos penodol. Dylai bob amser gynnwys ystyriaethau cydymdeimladol o amgylchiadau personol yr unigolyn dan sylw er mwyn ceisio ffyrdd o liniaru achos yr absenoldeb.
Gellid bod wedi osgoi rhai o'r achosion proffil uchel a chostus iawn a gyflwynwyd yn erbyn sefydliadau o'r sector cyhoeddus (gweler www.unison.org.uk/acrobat/12879.pdf ) pe bai dulliau adolygu o'r fath wedi'u cynnal yn briodol. (Cyf: Risg)
Yn amlwg, caiff y pwyntiau sbarduno mwy difrifol eu rhagflaenu bob amser gan y lefelau cyntaf, a dyma pam dylid cadarnhau canlyniad pob adolygiad drwy lythyr a dylai'r adran Adnoddau Dynol gadw copi ohono. Dylai'r llythyr hwnnw ailddatgan beth yw'r pwynt sbarduno nesaf (copi o'r weithdrefn Gallu).
Mae'n arfer da sicrhau bod unrhyw reolwr sy'n gysylltiedig â chynnal adolygiad yn gallu gwneud hynny, gyda hyfforddiant neu gymorth gan yr adran Adnoddau Dynol lle y bo'n ofynnol. Dylai'r adran Adnoddau Dynol weithredu dull cyfathrebu sy'n hyblyg ac yn addas: gall adolygiad teg ac adeiladol sydd wedi sicrhau gwelliant ym morâl y cyflogai gael ei danseilio drwy eiriad rheolaethol amhriodol mewn llythyrau safonol gan yr adran Adnoddau Dynol.