 |
|
|
Rydym yn rheoli achosion o absenoldeb cyflogeion yn gadarnhaol drwy sicrhau bod rheolwyr llinell yn ymyrryd yn gynnar, cynyddu nifer yr achosion a gyfeirir at ein Huned Iechyd Galwedigaethol a gweithio gyda gweithwyr proffesiynol allanol er mwyn mynd i'r afael â materion absenoldeb yn rhagweithiol a gwella lefelau presenoldeb, gan gyfrannu at y lleihad yn ein ffigurau absenoldeb oherwydd salwch. Byddwn yn parhau i edrych am ffyrdd newydd ac arloesol o wella iechyd ein cyflogeion, rheoli pob achos o absenoldeb unigol yn rhagweithiol a llunio rhaglenni dychwelyd i'r gwaith yn gynnar sy'n ddiogel ac yn gynaliadwy.
|
|
|
|
|
Byddwn yn parhau i edrych am ffyrdd newydd ac arloesol o wella iechyd ein cyflogeion, rheoli pob achos o absenoldeb unigol yn rhagweithiol a llunio rhaglenni dychwelyd i'r gwaith yn gynnar sy'n ddiogel ac yn gynaliadwy.'
| Blwyddyn |
Salwch Swyddogion Heddlu (dyddiau) |
Salwch Staff yr Heddlu (dyddiau) |
| 2004/2005 |
11.6 |
11.6 |
| 2005/2006 |
9.82 |
8.35 |
2006/2007 (y chwarter olaf) |
1.92 |
2 |
Cysylltwch â: Gareth Cowley, Pennaeth Adnoddau Dynol. Ffôn 01267 226400.
Mae'r tîm Iechyd Galwedigaethol mewnol yn darparu gwasanaethau sy'n canolbwyntio ar ddulliau rhagweithiol o atal achosion o absenoldeb.
NODWEDDION ALLWEDDOL:
- Mae asesu anghenion staff yn ofalus yn hanfodol er mwyn darparu gofal wedi'i dargedu a chost effeithiol:
Cyflogir ffisiotherapydd am nifer o sesiynau bob wythnos ac mae'n cynnig apwyntiadau i unrhyw swyddog neu aelod o staff a thriniaeth ar unwaith i unrhyw un sydd i ffwrdd o'r gwaith yn sâl ag unrhyw fath o broblem cyhyrsgerbydol. Yn hytrach nag aros i weld Swyddog Meddygol mae apwyntiadau ar unwaith am driniaeth ffisiotherapi broffesiynol yn darparu enillion cost a budd sylweddol. Gall y Swyddog Meddygol (meddyg iechyd galwedigaethol ymgynghorol) drefnu ei hamser er mwyn trin yr achosion mwy difrifol a chymhleth.
Cyflogir Cynghorydd Lles, sy'n gweithio'n agos gyda'r Ffisiotherapydd yn y tîm Iechyd Galwedigaethol, i gynorthwyo unigolion â phatrymau deiet ac ymarfer corff a chydlynu rhwydwaith o 'Hyrwyddwyr Lles' gwirfoddol ar draws yr heddlu, y rhoddir amser penodol iddynt y tu hwnt i'w dyletswyddau arferol i gyflawni'r rôl hon bob mis er mwyn hyrwyddo ymgyrchoedd a digwyddiadau a helpu unigolion.
- Cynhelir 'Ffeiriau Iechyd' yn flynyddol ym mhob lleoliad a gorsaf yn ardal Dyfed-Powys. Mae hwn yn ddigwyddiad mawr sy'n canolbwyntio ar hyrwyddo iechyd, ffordd o fyw ac atal salwch. Anogir pob aelod o staff i ddod i'r digwyddiad hwn i gael prawf pwysedd gwaed, colesterol, ffitrwydd, mynegai màs y corff a gweithrediad yr ysgyfaint ac i gael gwybodaeth am ystod eang o gyflyrau iechyd sy'n hyrwyddo lles. Mae'r ymweliadau hyn hefyd yn rhoi'r cyfle i staff gael brechiadau sy'n angenrheidiol er mwyn atal firysau a gludir gan waed. Mae'r ymweliadau hyn yn gyfle perffaith i ddarparu cyngor iechyd galwedigaethol i bob aelod o staff.
- Mae'r Gwasanaeth Iechyd Galwedigaethol yn buddsoddi tua £13,000 y flwyddyn ar ymgynghoriadau arbenigol preifat bob blwyddyn, a £44,000 ar driniaeth breifat, gan gynnwys llawdriniaethau a sganiau MRI. Gwneir penderfyniadau o ran cyllid ar sail cyfrifiad cost a budd sy'n dangos arbedion cost. Dengys gwerthusiad o gost/budd y gwariant hwn yng nghyd-destun lleihau amser a gollwyd, nad yw'r buddsoddiad ond yn talu am ei hun, ond yn creu gwerth am arian sylweddol hefyd.
- Yn 2005/2006 dangosodd y gyllideb llawdriniaethau yn unig arbedion sylfaenol o £338,340. Nid yw hyn yn cynnwys arbedion cudd megis perfformiad a chostau recriwtio.
| Blwyddyn |
Nifer y staff a gafodd eu trin |
Cost |
Arbedion posibl |
| 2003/2004 |
10 |
£32,999 |
£140,711.00 |
| 2004/2005 |
10 |
£32,353 |
£248,375.00 |
| 2005/2006 |
13 |
£46,355 |
£338,340.00 |
- Caiff Therapi Gwybyddol Ymddygiadol ynghyd â gwasanaeth cynghori eu defnyddio'n gynyddol i gynorthwyo unigolion sy'n absennol oherwydd salwch oherwydd materion seicolegol cymhleth. Penodwyd Seicolegydd â sgiliau Therapi Ymddygiadol Gwybyddol arbenigol yn ddiweddar er mwyn rhoi cymorth i staff ar unwaith.
- Drwy gynnal Archwiliad Straen mewnol gan ddefnyddio arbenigwr cenedlaethol blaenllaw, a chynnwys 'Meddwl Iach yn y Gwaith', rhoddir cymorth sy'n canolbwyntio ar atebion i staff sy'n ymdopi ag unrhyw bryder.
Heddlu Dyfed-Powys:
| 'Dim ond neges e-bost gyflym i ddiolch i bawb ohonoch yn yr adran iechyd galwedigaethol am y gwasanaeth a'r help a gefais dros y chwe mis diwethaf. Mae arnaf ofn meddwl beth fyddai wedi digwydd pe na fyddai gwasanaeth o'r fath ar gael nid yn unig i mi ond hefyd i aelodau eraill o staff sy'n wynebu sefyllfaoedd tebyg i mi. Cydnabu'r adran Iechyd Galwedigaethol yn gyflym nad oedd popeth yn iawn â'r gwasanaeth yr oeddwn yn ei gael eisoes a gwnaethant ymyrryd ar gam cynnar i ymdrin â'r materion a oedd yn gysylltiedig â'm hanaf. Pe na fyddech wedi ymyrryd mor brydlon ag y gwnaethoch teimlaf y gallai'r driniaeth yr oeddwn yn ei chael am fy anaf fod wedi arwain at ganlyniadau difrifol i'm gyrfa.' |
Cysylltwch â: Maria Vanderpas, Rheolwr Iechyd Galwedigaethol. Ffôn 01267 226682 neu maria.vanderpas@dyfed-powys.pnn.police.uk.
|
|
|