- Y seminar a gynhaliwyd yn Neuadd y Ddinas Caerdydd oedd yr olaf yn y gyfres o chwech gyda 17 o arweinwyr o Wasanaeth Cyhoeddus Cymru yn bresennol, mae'r manylion ar gael yma.
- Mae crynodeb o ganfyddiadau allweddol Swyddfa Archwilio Cymru a gyflwynwyd gan y Prif Swyddog Gweithredu Anthony Snow ar gael yma.
- Rhoddodd Brian Fraser, Prif Swyddog Tân, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, nifer o enghreifftiau o ddysgu a rennir a allai gynorthwyo sefydliadau eraill. Roedd y rhain yn canolbwyntio ar y broses o gaffael offer a chyd-leoli a defnyddio cyfleusterau gyda sefydliadau eraill. Mae'r enghreifftiau hyn yn cael eu datblygu yn astudiaethau achos ar gyfer y fforwm dysgu a rennir ar hyn o bryd.
|
Negeseuon allweddol gan gynadleddwyr Neuadd y Ddinas Caerdydd:
- Ym marn y cynadleddwyr ni ddylai targedau a fframweithiau rheoli perfformiad a ddyfeisir yn ganolog weithio yn erbyn sefydliadau sy'n cydweithio. Mae angen targedau a chanlyniadau cyffredin.
- Mae ‘gorlamu’ personél allweddol prin rhwng gwasanaethau cyhoeddus yn creu marchnad swyddi ffug a chaiff gryn effaith ar gyllidebau recriwtio.
- Mae mentrau buddsoddi i arbed yn cael effaith sylweddol yn ariannol ac yn ddiwylliannol, gan greu gwelliannau arloesol a chreadigol sy'n canolbwyntio ar y dinesydd.
- Mae deall a yw mentrau wedi bod yn llwyddiannus yn angenrheidiol ac mae angen ystyried hyn yn gynnar.
- Gellir defnyddio ‘diffyg canllawiau’ fel esgus dros syrthni. Ym marn rhai cynadleddwyr mae'n fwy posibl y gallai canllawiau rwystro arloesedd ac arafu momentwm pe baent yn or-ragnodol.
- Er bod newid yn cael ei bennu yn aml o'r tu allan, mae'n bwysig cydnabod mai dim ond o'r tu fewn i'r sefydliad y gellir ei weithredu'n llwyddiannus.
|
Ceir crynodeb o ganlyniadau'r seminar yma. Caiff y negeseuon allweddol a godwyd gan y cynadleddwyr eu hystyried ynghyd â chanlyniadau'r seminarau eraill dros y misoedd i ddod.
Os hoffech wneud sylwadau am y negeseuon allweddol, gwneud sylwadau mwy cyffredinol neu egluro pwynt penodol, byddwn yn falch o glywed gennych. Mae croeso i chi gysylltu â mi drwy anfon neges e-bost at anthony.snow@wao.gov.uk.
|