The Childrens Trust Close
Home > Seminarau Dysgu a Rennir > Cwmbran
Cwmbran
Cwmbran Police Training Headquarters, Cwmbran - 24 October 2007
  • Y seminar yng Nghanolfan Ddysgu Heddlu Gwent yng Nghwmbran oedd y pumed allan o chwech gydag 16 o arweinwyr o fod Gwasanaeth Cyhoeddus Cymreig yn bresennol, gellir gweld y manylion yma.
  • Gellir gweld crynodeb o brif ganfyddiadau allweddol Swyddfa Archwilio Cymru a gyflwynwyd gan Brif Swyddog Gweithredu Anthony Snow yma.
  • Siaradodd Colin Berg, Prif Weithredwr Cyngor Sir Fynwy am weithio mewn partneriaeth rhwng Gwasanaethau Iechyd a Chymdeithasol sydd wedi bod yn datblygu dros y 10 mlynedd ddiwethaf ac wedi arwain i adnawdd llwyddiannus, a ariannwyd ar y cyd. Mae elfennau o’r enghraifft hon yn cael eu datblygu yn astudiaethau achos ar hyn o bryd ar gyfer y fforwm dysgu ar y cyd.

 Negeseuon allweddol gan ddirprwyon Cwmbran:

  • Mae gwybodaeth a data yn adnoddau gwerthfawr ac mae angen eu defnyddio’n well. Bydd rhannu effeithiol ar y cyd yn caniatáu targedu adnoddau ar flaenoriaethau cyffredin yn well. Bydd hyn yn cyflawni gwell gwasanaethau yn y ffordd fwyaf cost effeithiol.
  • Roedd cynrychiolwyr yn teimlo bod pennu amcanion clir ar ddechrau menter a bod â fframwaith wedi’i ddatblygu’n dda wedi helpu nifer o gyrff i weithio gyda’i gilydd yn well. Mae hyn wedi arwain i ganlyniadau cadarnhaol o ran comisiynu arbenigol
  • Mae ymgysylltu ag Aelodau Etholedig, sydd yn y pen draw yn gynrychiolwyr dinasyddion, yn hanfodol.
  • Pan fydd dinasyddion yn ymgysylltu â her allweddol cael pobl i gymryd rhan ac ymrwymo iddo o flaen llaw. Mae hyn yn helpu llunio gwell canlyniad ac yn osgoi cwynion sy'n ei ddilyn unwaith y bydd wedi'i weithredu.

 

  • Ceir crynodeb o ganlyniadau’r seminar yma. Caiff y negeseuon allweddol a godwyd gan gynrychiolwyr eu hystyried ynghyd â chanlyniadau seminarau eraill dros y mis nesaf.
  • Os hoffech wneud sylwadau ar y negeseuon allweddol, gwneud sylwadau mwy cyffredinol neu ychwanegu pwynt i egluro hoffwn glywed gennych. Mae croeso i chi gysylltu â mi drwy anfon e-bost at anthony.snow@wao.gov.uk.