The Childrens Trust Close
Home > Seminarau Dysgu a Rennir > Llanelwy
Llanelwy
Optic Technium, St Asaph - 4 October 2007
  • Y seminar yn Optic Technium yn Llanelwy oedd y cyntaf o'r chwech a gynhaliwyd ledled Cymru ac roedd yn cynnwys 24 o arweinwyr Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. Mae'r manylion ar gael yma
  • Gellir gweld crynodeb o ganfyddiadau allweddol Swyddfa Archwilio Cymru a gyflwynwyd gan y Prif Swyddog Gweithredu Anthony Snow yma.
  • Darparodd Alan Murray, Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru ddwy enghraifft o ddysgu a rennir a oedd o ddiddordeb i sefydliadau eraill. Roedd y rhain yn canolbwyntio ar gyd-gaffael gwasanaethau iechyd galwedigaethol gyda gwasanaethau Tân ac Achub, a chyd-leoli cerbydau Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru ar safleoedd gwasanaethau Tân ac Achub eto.  Mae'r ddwy enghraifft hyn yn cael eu datblygu i fod yn astudiaethau achos ar gyfer y fforwm dysgu a rennir.

 Negeseuon allweddol gan gynadleddwyr Llanelwy:

  • Roedd y cynadleddwyr o'r barn bydd dangos llwyddiant mewn meysydd penodol yn helpu eraill i weld yr hyn y gellir ei gyflawni a pha fuddiannau y gellir eu cael.
  • Mae angen i wleidyddion bennu'r agenda polisi / cyfeiriad cyffredinol, ac yna adael y gwaith cyflawni i'r gweithwyr proffesiynol cyflogedig lleol.
  • Roedd y cynadleddwyr o'r farn bod sut yr oedd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ymateb i'r negeseuon sy'n berthnasol iddynt yn bwysig ac yna'n dangos eu bod yn gwrando ac yn gweithredu.
  • Yn aml mae gan ddinasyddion anodd eu cyrraedd a dinasyddion risg uchel anghenion aml-asiantaeth, a byddai gwell cydweithredu gan gyrff y sector cyhoeddus yn fwy effeithiol

Ceir crynodeb o ganlyniadau'r seminar yma.  Caiff y negeseuon allweddol a godwyd gan y cynadleddwyr eu hystyried ynghyd â chanlyniadau'r seminarau eraill dros y mis nesaf.

Os hoffech wneud sylwadau am y negeseuon allweddol, gwneud sylwadau mwy cyffredinol neu egluro pwynt penodol, byddwn yn falch o glywed gennych. Mae croeso i chi gysylltu â mi drwy anfon neges e-bost at anthony.snow@wao.gov.uk.