| Dylai cyrff talu ei gwneud yn ofynnol bod derbynwyr yn derbyn yn ffurfiol llythyrau cynnig grant – gan gynnwys y telerau ac amodau – cyn i unrhyw gronfeydd gael eu rhyddhau. Mae hyn yn lleihau’r tebygolrwydd o ansicrwydd ac anghydfodau yn y dyfodol ac yn galluogi dal y derbyniwr yn gyfrifol am ei ddefnydd ar gronfeydd a'i reolaeth ar brosiectau a ariennir drwy grantiau. |