Cylch bidio
Pan fo grantiau ar gael am gyfnod cyfyngedig yn unig a dim ond ychydig o’r prosiectau posibl sy’n fforddiadwy, gall cyrff talu ddewis gwahodd bidiau erbyn dyddiad penodedig a byddant yn eu harfarnu wedyn cyn penderfynu pa rai i'w cefnogi. Yn aml mabwysiedir y broses hon ar gyfer grantiau newydd iawn ble y mae'n bosibl y rhoddir cefnogaeth i ychydig o 'brosiectau peilot' er mwyn galluogi gwerthuso eu llwyddiant cyn i eraill ehangu'r cynllun. Mae defnyddio ‘cylchoedd ceisiadau’ yn helpu cyrff talu i reoli eu cyllidebau a’u llwythi gwaith gan ei fod yn paru dyfarniadau â'r cyllid gwirioneddol sydd ar gael ar ryw adeg.
<< Back to previous page