Broceriaeth
Pan fydd corff talu'n cefnogi nifer o brosiectau cyfalaf cymhleth a all gymryd blynyddoedd lawer i'w gorffen, gall ddewis i weithredu fel 'brocer' rhwng y derbynwyr y mae arnynt angen yr arian yn gynnar ac eraill y bydd arnynt ei angen yn ddiweddarach. Mae hyn yn golygu ail broffilio arian rhwng derbynwyr dros sawl blwyddyn. Mae cyrff sy’n derbyn arian ychwanegol yn gynnar (a ariennir o’r grant fyddai fel arall yn daladwy i’r defnyddwyr arafach) ac wedyn yn rhoi heibio'r cyfan neu ran o'u dyfarniad mewn blynyddoedd diweddarach i alluogi'r corff talu i wneud taliadau 'dal i fyny' i'r defnyddwyr araf. Gan fod broceriaeth yn beryglus, dylid ei defnyddio mewn amgylchiadau anorchfygol yn unig ac nid ddylid ei defnyddio i wneud yn iawn am ddiffygion ym mhroses wreiddiol y dyfarniad.
<< Back to previous page