| Cyfarwyddyd i’r archwilydd yn ardystio hawliad grant neu ddatganiad terfynol a gyhoeddwyd gan Swyddfa Archwilio Cymru. Darperir enghraifft yma. Cytunir ar y cyfarwyddyd gyda’r corff talu grant cyn iddo gael ei gyhoeddi i'r archwilydd, fel arfer dyma’r archwilydd a benodir (neu a ddynodir) gan Archwilydd Cyffredinol Cymru. Mae’r cyfarwyddyd yn cyflwyno rhaglen o brofion y bydd yr archwilydd yn eu perfformio ac mae’n esbonio telerau ac amodau ariannol allweddol y grant. Mae hefyd yn dweud wrth yr archwilydd pa ffurflen neu ddatganiad y dylid ei ddefnyddio a’r dyddiadau cau i'r corff sy'n eu derbyn a'r archwilydd gwblhau eu tystysgrifau priodol. |