| Y ffurflen a ddosberthir gan y corff sy’n talu i’r derbyniwr y mae’n rhaid ei defnyddio i hawlio grant. Cynhwysir enghraifft yma. Er y gellir gwneud grantiau bach, syml trwy daliad unigol, telir grantiau fel arfer mewn rhandaliadau naill ai’n gysylltiedig â’r calendr (yn fisol, yn chwarterol neu’n flynyddol) neu i’r cyfnodau allweddol mewn cynnydd prosiect. Telir y rhan fwyaf o grantiau fel ôl-daliadau - felly ad-delir y derbyniwr ar gyfer y costau gwirioneddol a achoswyd - gan mai’r egwyddor yw ni ddylid talu derbynwyr ‘o flaen yr angen’. Fodd bynnag, nid yw’n anarferol i elusennau a grwpiau cymunedol gael eu talu ‘yn chwarterol o flaen llaw’ i’w helpu gyda’u llif arian. Mae’n bwysig y gwneir hawliadau ar y sail gywir – mae’r sail ‘incwm a gwariant’ (croniadau) yn normal er y nodir y sail 'derbyniadau a thaliadau' weithiau yn nhelerau ac amodau'r grant. Mae’r sail ‘incwm a gwariant’ yn caniatáu hawliadau am nwyddau a gwasanaethau a dderbynnir erbyn diwedd cyfnod yr hawliad hyd yn oed os na thelir y cyflenwyr tan yn ddiweddarach. Dyma sail normal cyfrifeg. Ond, o dan y sail ‘derbyniadau a thaliadau’, gall derbynwyr hawlio am y taliadau a wnaed ganddynt hyd at ddiwedd y cyfnod hawlio yn unig. |