| Mae gwaith archwilydd wrth ardystio grantiau'n wahanol i natur ei waith ar y cyfrifon, bydd archwilwyr yn rhoi ‘casgliad’ yn hytrach na ‘barn’ o ganlyniad i'w gwaith profi hawliadau a datganiadau. Mae casgliad yr archwilydd yn dibynnu ar lefel y sicrwydd a geisir gan y corff talu (gweler ‘Llythyr Ymgysylltu’) ond fel arfer mae’n ymwneud â’r archwilydd yn dweud a fodlonwyd y meini prawf cymhwyster a/neu a wariwyd yr arian grant ar gyfer y pwrpasau a gymeradwywyd. |