Cydlynydd Grantiau
Pwynt cysylltu wedi’i ddynodi yng nghorff y derbyniwr ar gyfer cydlynu rhwng yr archwilydd a’r uwch gyfrifyddion/uwch reolwyr prosiectau os digwydd unrhyw anawsterau wrth wneud gwaith yr archwilydd neu unrhyw oedi wrth baratoi hawliadau. Dylai'r Cydlynydd Grantiau:
  • gaffael manylion pob cynllun a hawlir gan y derbyniwr;
  • cynnal y Gronfa Ddata o Grantiau;
  • cynllunio pryd y paratoir ac yr ardystir hawliadau a datganiadau fel y byddant yn cwrdd â'u dyddiadau cau yn ôl eu trefn;
  • rhannu gohebiaeth rhwng y derbyniwr a'r cyrff talu gyda'r archwilydd;
<< Back to previous page