| Gan fod llawer o grantiau’n gallu bod yn gymhleth iawn, efallai y bydd yr archwilwyr am ddefnyddio Arbenigwr Grantiau i ardystio cynlluniau penodol. Mae hyn yn galluogi'r archwilydd i ddatblygu gwybodaeth a phrofiad trylwyr o'r gofynion ar gyfer pob cynllun, yn enwedig ar yr hyn sy'n gymwys ac nad yw’n gymwys, ac o unrhyw systemau TG pwrpasol a ddefnyddir i weinyddu grantiau (e.e., Budd-daliadau Tai a Chyngor, data dysgwyr yn y man gwaith). |