Arian cyfatebol
Mae llawer o grantiau, gan gynnwys y rhai o Gronfeydd Strwythurol Ewropeaidd, yn talu rhan o gostau’r prosiect llawn yn unig. Golyga hyn fod rhaid talu’r costau sy’n weddill o ffynhonnell arall, y ‘cronfeydd cyfatebol’, a thasg y derbyniwr fydd sicrhau'r rhain. Mae ffynonellau posibl o gronfeydd cyfatebol yn cynnwys:
  • rhaglenni a grantiau eraill y Llywodraeth;
  • grantiau gan awdurdodau lleol a chyrff statudol eraill;
  • cyfraniadau gan y sector gwirfoddol, gan gynnwys rhoddion gan elusennau ac ymddiriedolaethau;
  • cyfraniadau gan y sector preifat;
  • benthyciadau gan wahanol gyrff.

Gall arian cyfatebol gynnwys ‘cyfraniadau o fath arall’ yn ogystal ag arian – er enghraifft defnyddio staff cyflogedig ar y prosiect, gwirfoddolwyr, a swyddfeydd.

<< Back to previous page