Llythyr gan y corff talu i’r derbyniwr sy’n cadarnhau bod y bid neu'r cais am grant (gan gynnwys unrhyw gynllun cyflawni) yn dderbyniol ac y dyfernir cyllid. Mae’r llythyr cynnig yn rhoi manylion llawn y grant, gan gynnwys:
- enw’r derbyniwr (ac unrhyw bartneriaeth ehangach a ariennir);
- y gweithgareddau cymwys a gymeradwywyd i gael eu hariannu;
- mathau ar wariant cymwys (ac unrhyw beth arall sy'n anghymwys);
- swm uchaf y grant y bydd gan y derbyniwr hawl iddo;
- natur y grant (cyfalaf, refeniw);
- cyfradd y gefnogaeth grant a chost uchaf cymwys y prosiect (os yw’r grant yn llai na 100 y cant);
- cyfnod y grant, yn dangos y dyddiadau cychwyn a gorffen a’r dyddiad olaf ar gyfer hawliadau;
- y canlyniadau i’w cyflawni, gan ddangos cerrig milltir a thargedau terfynol;
- y telerau ac amodau ac unrhyw ganllawiau eraill;
- ffurflen hawlio (ac unrhyw ddatganiad alldro).
Dylai’r llythyr gynnwys gofyniad bod y derbyniwr yn dychwelyd llythyr ‘derbyn’ ffurfiol cyfeirir hefyd at ‘lythyrau cynnig’ fel ‘cytundebau cyllid’. |